Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr
Dylai'r system EPOS gynnig profiad effeithlon a chadarn ond ystyriol o ddefnyddwyr ar gyfer timau sy'n wynebu'r cyhoedd a dylai allu integreiddio â Tessitura Ticketing a'r Datrysiad CRM. Dylai'r datrysiad allu rheoli lefelau stoc yn effeithlon ar bob llwyfan gwerthu a'i gwneud yn bosibl i lanlwytho stocrestr newydd yn hawdd, yn ogystal â gostyngiadau a hyrwyddiadau. Dylai fod opsiwn ar gyfer mathau lluosog o ddefnyddwyr gyda lefelau amrywiol o fynediad ac awdurdod. Dylai dulliau ad-dalu a newid stoc/talu fod ar gael yn hawdd i'r defnyddwyr perthnasol. Bydd angen system stocrestr yn y tendr. Bydd y mannau arlwyo yn gwerthu stoc wlyb yn bennaf oherwydd bydd y cyfleusterau bwyta a chiniawa yn cael eu gosod ar gontract allanol ac ni fyddant yn rhan o gwmpas y prosiect hwn. Fodd bynnag, caiff byrbrydau, hufen iâ a melysion eu gwerthu gan CMC mewn amrywiol fannau.
Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn ailagor gydag ymwybyddiaeth o ddiogelu rhag Covid a'r gallu i wneud hynny; o ganlyniad, dylai'r datrysiad EPOS ddarparu ar gyfer y gallu i drawsrwydweithio drwy ddyfais symudol a ddelir â llaw, yn ogystal â darparu mannau talu ar wahân. Mae'r gallu i weithredu mewn ffordd ddigyswllt sy'n cadw pellter cymdeithasol yn hanfodol. Dylai'r datrysiad EPOS gael ei redeg ar galedwedd ddi-batent safonol i ganiatáu ar gyfer dull gweithredu hyblyg er mwyn defnyddio'r system ar raddfa fwy neu raddfa lai yn ôl y gofyn.
Dylai'r datrysiad EPOS hefyd gynnwys y cyfle i gyflwyno barrau dros dro, arddull ‘clicio a chasglu’, drwy Ap ffôn symudol neu ragarchebu o fan talu. Dylai'r Gwerthwr gynnwys yn ei gynnig grynodeb o'i allu i ddarparu Ap Ffôn Symudol integredig o fewn ei gyfres o wasanaethau. Dylid cynnwys gwybodaeth ynghylch a yw'r Ap hwn yn un label wen sy'n ein galluogi i gynnwys ein brandio ac i'w ffurfweddu mewn unrhyw ffordd yn unol â'n gofynion. Fel arall, os nad oes gan y Gwerthwr ei Ap ei hun, yna dylai'r Gwerthwr nodi ei allu a'i barodrwydd i ddarparu modd i integreiddio â darparwr Ap trydydd parti. Nodwch a fydd yn dwyn cost neu a gaiff ei ddarparu'n ddi-dâl.
Ar hyn o bryd, mae ein system CRM (Tessitura) yn cynhyrchu codau QR i gwsmeriaid drwy e-dalebau pan fyddant yn archebu tocynnau ac eitemau ategol megis Diodydd yn ystod yr Egwyl, a dylai'r datrysiad EPOS ganiatáu ar gyfer sganio a/neu gysoni'r rhain. Dylai'r datrysiad ganiatáu integreiddio dwyffordd mewn amser real er mwyn ei gwneud yn bosibl i reoli'r stocrestr yn gywir yn ogystal â chofnodi defnydd cwsmeriaid. Dylai'r datrysiad gynnig mannau casglu i gwsmeriaid sydd wedi rhagarchebu yn y bar agosaf i'w seddi er hwylustod, a hefyd ym mhob rhan o ardaloedd blaen y tŷ. Gellir darparu pob cynllun seddi yn ystod y broses weithredu.
Drwy integreiddio CRM Tessitura, dylai fod modd Adnabod Cwsmeriaid yn y Man Gwerthu EPOS, yn benodol i aelodau sydd â hawl i gael pris gostyngol neu Bwysigion/aelodau o'r staff. Dylai aelodau gael eu hadnabod drwy godau QR o bosibl a/neu gardiau aelodaeth, a dylai opsiynau talu megis talebau rhodd a Chyfrifon Mewnol adrodd yn ôl yn uniongyrchol i gofnodion cwsmeriaid yn y gronfa ddata. Mae CMC yn croesawu unrhyw awgrymiadau gan Werthwyr ynglŷn ag opsiynau eraill o ran adnabod ac integreiddio yn y maes hwn.
Dylai fod modd i'r datrysiad gynnig Cynhyrchydd Adroddiadau er mwyn dadansoddi gwerthiannau y gellir ei drin yn hawdd a'i ddefnyddio ar gyfer derbynwyr mewnol ac allanol. Dylai fod modd hefyd i'r data hyn gael eu hallforio a'u bwydo i mewn i System Gwybodaeth Busnes trydydd parti yn y dyfodol at ddibenion dadansoddi.
Mae'n rhaid i unrhyw system a ddewisir gan CMC fod yn ddatrysiad integredig ac wedi'i “diogelu at y dyfodol” i allu integreiddio â thechnolegau sy'n cael eu datblygu, gan gynnwys datrysiadau talu symudol yn y dyfodol. Byddai Ap archebu ffôn symudol trydydd parti yn cael ei ystyried ar yr amod ei fod eisoes wedi'i integreiddio â'r ddarpariaeth graidd a gynigir gan y gwerthwr. Byddai'n well gan CMC gael datrysiad “un contractwr” gan un darparwr sydd ag un gronfa ddata. Mae'n “rhaid” i'r Cyfrifon CRM/Tocynnau Tessitura a Sage gael eu hintegreiddio â'r datrysiad cyffredinol yn ogystal â phecyn Rheoli Stoc, talu Sglodyn a Rhif Adnabod a datrysiad di-arian Rhagdalu.
Hoffai CMC hefyd allu cynnig “rhoddion digyswllt” a hefyd dalgrynnu pryniannau at ddibenion rhoi rhodd.
DARLLENWCH Y DDOGFEN BRIFFIO SYDD WEDI’I HATODI.
|