Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Trosolwg o’r Prosiect.
Mae Menter Môn a Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog am benodi cwmni lleol i gyd-weithio a'r Cwmni Bro i ddatblygu a sefydlu system o ddarlledu digidol cymunedol fel cyfrwng i hyrwyddo gweithgaredd cymdeithasol a diwylliannol a hybu datblygiad cymunedol ym Mro Ffestiniog.
Cefndir Menter Môn.
Sefydlwyd Menter Môn yn 1995 i gyflwyno rhaglenni datblygu gwledig yr UE. Mae'n gwmni trydydd sector gyda bwrdd o gyfarwyddwyr yn cynnwys y sector preifat, gwirfoddol a chymunedol.
Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol gyda 20 mlynedd o brofiad o gyflawni prosiectau datblygu gwledig ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys:
• Corff Arweiniol ar gyfer Prosiect FLAG Ynys Môn a Gwynedd ar y cyd (Grwp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd)
• Cydlynu Prosiect Glastir yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Cheredigion rhwng 2013 a 2015
• Cyflwyno ystod o brosiectau a ariannwyd gan yr UE mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Dinbych. Mae’r rhain yn cynnwys Cyfenter a Siapio'r Dyfodol ( y ddau wedi’u hariannu gan yr ERDF)
Ym mis Chwefror 2015, daeth yn gorff gweinyddol ar gyfer y rhaglen LEADER yn Ynys Môn a Gwynedd. Mae'r rhaglen LEADER yn gweithredu o'u swyddfeydd yn Neuadd y Dref yn Llangefni (Ynys Môn), a'r Stryd Fawr ym Mhorthmadog (Gwynedd).
Cefndir Cwmni Bro Ffestiniog.
Mae Cwmni Bro Ffestiniog (enw cofrestredig llawn Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog) yn ddatblygiad hollol unigryw ac arloesol.
Ceir rhai esiamplau o fentrau cymdeithasol yng Nghymru yn cydweithio i ffurfio ‘consortia’, ar gyfer tendro ar y cyd, neu i gyflawni prosiect neilltuol, ond mae Cwmni Bro Ffestiniog yn dra gwahanol i hyn.
Mewn un ardal, Bro Ffestiniog, mae undegpedwar o fentrau wedi dod at ei gilydd er mwyn cydweithio ar ffurf rhwydwaith o fentrau a busnesau cymdeithasol dan fantell un cwmni, sef Cwmni Bro Ffestiniog.
Mae’r mudiadau a mentrau yn cynnwys Seren, Antur Stiniog, CellB/Gwallgofiaid, Barnados, Ysgol Y Moelwyn, Trawsnewid, Pengwern Cymunedol, Deudraeth cyf, GISDA, Opra Cymru a mwy.
https://youtube/X514auAxgic
Mae mwy o fentrau cymdeithasol y pen ym Mro Ffestiniog nag unrhyw ran arall o Gymru ac maent yn cynnig ystod o wasanaethau amrywiol sydd o fudd amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, addysgol a chymunedol.
Maent rhyngddynt yn cyflogi oddeutu 200 o drigolion lleol ac yn cyfrannu yn sylweddol at economi a bywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ardal. Yn ogystal â chyflogaeth maent yn cynnig cyfleoedd pwysig ac amrywiol i drigolion wirfoddoli a dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Mae’r potensial ganddynt i ddatblygu ymhellach gyda chefnogaeth bwrpasol, hafal, uchelgeisiol a phroffesiynol. Mae yna feddylfryd newydd ymysg y trigolion, agwedd gadarnhaol o fynd ati i gyfranogi yn y broses o brofi a gwneud pethau trostom ein hunain. Mae meithrin y newid diwylliannol hwn yn greiddiol i’r dasg o greu dyfodol llewyrchus i’r ardal ac ardaloedd eraill ar draws Cymru. Cynnal ac hyrwyddo'r newid diwylliannol hwn yw un o brif amcanion Brocast Ffestniog.
Tasg Cwmni Bro yw ymgymeryd â mantell y cyfrifoldeb hwn a gweithredu’r gwaith o adfywio a bywiogi economi yn ogystal â bywyd cymdeithasol, amgylcheddol a chymunedol Bro Ffestinog.
Mae Cwmni Bro yn gweithredu yng nghymunedau Blaenau Ffestiniog, Llan Ffestiniog, Gellilydan, Trawsfynydd, a Phenrhyndeudraeth; rhyngddynt gyda phoblogaeth o dros 7,000.
Bydd Cwmni Bro yn cefnogi cwmniau a mentrau sydd yn bodoli i ddynodi a datblygu cyfleon masnachol newydd er mwyn creu mwy o incwm a chyfoeth a swyddi ac, ar yr un pryd, arwain at leddfu tlodi a datblygu sgiliau’r trigolion.
Caiff mentrau a phrosiectau newydd eu sefydlu, fydd yn arwain at fwy o swyddi a chyfoeth yn ogystal ag adfywio adeiledd y Fro.
Cydlynir mwy o gydweithio rhwng y mentrau gan rannu ymarfer gorau ag adnoddau.
Datblygir perthynas agosach a ffrwythlon rhwng y mentrau cymdeithasol a’r sector breifat, cyrff gwirfoddol a chyrff cyhoeddus a statudol er mwyn sicrhau mwy o fuddsoddiad effeithlon ac effeithiol yn yr ardal er mwyn gwella bywyd y trigolion.
Hybir diwylliant o fentergarwch cymdeithasol ymysg pobl yr ardal gan bartneriaethau ag unigolion a chyrff o bob math.
Mae llais gan pob menter gymdeithasol ar Fwrdd Cwmni Bro a thrwy hynny caiff dyheadau cyfran sylweddol o drigolion yr ardal eu gwyntyllu yn ei drafodaethau a’i weithgareddau.
Eisoes lluniwyd cynlluniau y gallwn fynd ati i'w gweithredu fel Bro a fydd yn mynd i’r afael yn ymarferol â’r heriau sydd yn ein gwynebu fel cymuned ac yn wir cymunedau tebyg ar draws Cymru. Heriau megis cyflogaeth isel, cyflogaeth ansicr, problemau iechyd, addysg a hyfforddiant, mynediad i wasanaethau, diogelwch cymunedol, darpariaeth ynni, amgylchedd ffisegol a thai, cynnal a chryfhau iaith a diwylliant.
Mae hybu cyfranogiad y gymuned yn allweddol a chreiddiol i holl swyddogaethau eraill Cwmni Bro Ffestiniog. Mae cyfranogiad y gymuned yn dibynnu ar gyfathebru effeithiol ac un o swyddogaethau sylfaenol y Cwmni yw datblygu dulliau cyfathrebu cymunedol yn yr ardal yn enwedig cyfryngau cymdeithasol digidol cymunedol. Gelwir y datblygiad arfaethedig hwn yn ‘Bro-cast Ffestiniog.’
Gofynion/Briff
Mae Cwmni Bro Ffestiniog am gomisiynu cwmni/unigolion lleol i ddatblygu a sefydlu Bro-cast. Mae sgop y gwaith yn cynnwys:
• Cydweithio a rhwydwaith Cwmni Bro Ffestiniog wrth ddatblygu gwefan, sianel ar y we a chyfryngau digidol cynhenid.
• Cynnal trafodaethau a sefydlu perthynas glos ag unigolion, sefydliadau, clybiau, mentrau a cymdeithasau y Fro wrth datblygu Bro-cast.
• Ysgogi a hwyluso gweithgaredd cymunedol, ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth o Bro-cast a fydd yn ei dro yn ysgogi trafodaeth adeiladol ar ddatblygu, gweithredu a chryfhau’r cynllun.
• Mae’n holl bwysig bod cymuned Bro Ffestniog yn ganolog ac yn perchnogi’r cyfrwng o’r cychwyn cyntaf.
• Bydd angen hyfforddi gohebwyr cymunedol yn ardal Bro Ffestiniog – Blaenau Ffestiniog, Llan Ffestiniog, Manod, Tanygrisiau, Maentwrog, Penrhyndeudraeth, Trawsfynydd, Gellilydan, Llanfrothen a Croesor.
• Cynulleidfa darged: Y gymuned gyfan, y bobl leol eu hunain, a dysgwyr a mewnfudwyr yn manteisio'n naturiol o weld a chlywed iaith bob dydd ac hefyd yn eu hysbrydoli i ddod yn rhan o weithgaredd cymunedol.
• Bydd angen annog busnesau a mentrau i hysbysebu ar Bro-cast a hyrwyddo’u busnesau, digwyddiadau a gweithgareddau.
• Magu perthynas iach a gweithio mewn partneriaeth â’r papur bro lleol, ‘Llafar Bro’, i rannu straeon a digwyddiadau ac hyrwyddo gweithgaredd cymunedol a diwylliannol.
• Bydd ‘BRO-Cast yn ysgogi ymdeimlad o berthyn i gymuned ac yn dod â phobl yn rhan adeiladol o drafodaeth ar ddatblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, addysgol, diwylliannol ac ieithyddol y fro.
• Bydd ffilmiau a newyddion ’ar lein’ yn un ffordd o ddod â dysgwyr a mewnfudwyr un cam yn nes at y gymuned; bydd yn help i dorri ffiniau rhwng y ni a nhw honedig.
• Mae Bro-cast yn rhan ganolog o weledigaeth Cwmni Bro ar gyfer datblygiad economaidd a chymunedol y fro. Bydd yn gyfrwng i bobl ddod yn ymwybodol o werth datblygu syniadau a'r cyfleon i greu gwaith ac incwm ym Mro Ffestiniog.
• Byddwn yn anelu i ddarlledu un rhaglen ‘newyddion/straeon’ wythnosol ac un rhaglen ‘digwyddiadau/gweithgareddau/swyddi/cyfleon’. Y gymuned fydd y gohebwyr, y darlledwyr a'r gynulleidfa.
• Mae’r holl fentrau a busnesau cymdeithasol o fewn Bro Ffestiniog yn cynnig gwasanaethau a chyfleon gyrfa drwy’r Gymraeg; o ofal cymdeithasol i waith creadigol, i ofal cwsmer. Bydd y cynllun yma yn cydfynd â chynllun Cwmni Bro Ffestiniog i ddatblygu cyfleon a hyfforddiant a gyrfa o fewn ein busnesau cymdeithasol a hynny yn naturiol yn yr iaith Gymraeg.
• Erbyn diwedd y cytundeb bydd Bro-cast wedi'i sefydlu'n gadarn a chynaliadwy.
Y nod efo BROcast ydi rhoi hyder i bobl feddwl mai nid rhywbeth i bobl ‘Y Cyfryngau’ yn unig yw darlledu a dod yn ddarlledwyr ein hunain. Gall y gymuned gyfan dod yn ddarlledwyr i gyfathtrebu a lledu syniadau a newyddion lleol. Rhannu cwestiynnau, consyrn, creadigrwydd a hwyl a’i cymdeithas. Nid bod yn un o’r cyfryngau ydi nod Bro-cast ond bod yn gyfrwng i newid a gwella a chryfhau ein cymunedau.
Priodweddau a sgiliau angenrheidiol
Mae’n angenrheidiol bod y cwmni sy'n ymgymryd a’r gwaith gyda'r priodweddau a sgiliau a ganlyn isod.
1. Yn adnabod ac yn deall y Fro a'r gymuned a weithredir ynddi.
2. Sgiliau a phrofiad helaeth gyda chyfryngau cyfathrebu digidol yn cynnwys creu gwefannau a llwyfannau digidol eraill, ffilmio, golygu, cyfarwyddo, cynhyrchu a darlledu.
3. Profiad a gallu ym maes hyfforddiant.
4. Dealltwriaeth o'r maes datblygu cymunedol a'r gallu a phrofiad ymarferol o weithio yn y maes.
5. Profiad a gallu i hwyluso gwaith grwp a gwaith cymunedol.
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=79228 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn http://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|