Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Pwrpas yr hysbysiad tybiannol hon ydyw profi’r farchnad er mwyn sefydlu pa sefydliadau sydd yn y farchnad a chanddynt yr adnoddau, yr arbenigedd a’r profiad priodol i ddefnyddio’r asedau y manylir arnynt isod er mwyn sicrhau’r canlyniadau canlynol:-
1. Diogelu a Chynnal Diwylliant a Threftadaeth yr Ynys
2. Sefydlu model busnes cynaliadwy
3. Cynyddu nifer y bobl sy’n ymweld ag Ynys Môn
4. Darparu manteision economaidd a chymdeithasol ychwanegol ac ehangach os yw hynny’n bosibl.
Mae’r asedau yn cynwys: Oriel Ynys Môn ger Llangefni, Y Llys a’r Carchar, Biwmares a Melin Llynnon ger Llanddeusant.
Er mwyn cyflawni'r canlyniadau hyn, mae'r awdurdod lleol yn agored i ystyried nifer o fodelau cyflawni i ddefnyddio'r cyfleusterau i’w pwrpas cyfredol. Hefyd yn agored i ystyried ddefnyddio’r Carchar, Llys a Llynnon i ddibenion eraill/ychwanegol tra hefyd yn gwarchod/cadw cymeriad ac edrychiad arbennig yr asedau ac unrhyw nodweddion pensaernïol a hanesyddol y tybir eu bod yn bwysig i’r asedau hyn (oherwydd eu statws rhestredig).
Sylwer:- Fodd bynnag, rhaid egluro nad yw’r asedau hyn ar gael ar hyn o bryd, nad oes penderfyniad wedi ei wneud ar ddyfodol yr asedau hyn (a all aros yn fewnol). Teclyn gwybodaeth yn unig fydd yr ymarfer hwn i gynorthwyo’r awdurdod lleol i werthuso opsiynau trawsnewid sy’n cynnwys y posibilrwydd o allanoli/prydlesu’r asedau hyn.
Cewch hyd i fanylion pellach yn y dogfennau sydd ar gael ar y tab dogfennau. I ddatgan diddordeb yn y cyfle yma, rydych angen cwblhau’r wybodaeth perthnasol ar waelod y ddogfen ‘Datgan Diddordeb’ yn y tab dogfennau a’i anfon yn electroneg i procurement@anglesey.gov.uk erbyn 4 p.m. ar 16 Hydref, 2015.
Petaech ag unrhyw gwestiwn neu angen eglurhad gwnewch hynny drwy’r rhan Cwestiwn ac Ateb (‘Q&A’) ar gwerthwchigymru
Petaech yn cael anhawster cael at y dogfennau neu’r rhan Cwestiwn ac Ateb (Q&A), e-bostiwch procurement@anglesey.gov.uk neu ffoniwch 01248 752674
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.uk/Search/Search_Switch.aspx?ID=34197 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. |