Mae’r Prosiect Tanfor yn brosiect amgylcheddol arloesol a fydd yn sicrhau bod tyrbinau ynni’r llanw yn cael eu gosod yn ddiogel fesul cam ym mharth Morlais. Mae'r parth yn ardal 35km2 oddi ar Ynys Cybi , Ynys Môn sy'n cael ei datblygu gan Menter Môn.
Gan weithio gyda thîm o arbenigwyr, mae'r prosiect wedi datblygu Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol (EMMP) i ddiogelu bywyd gwyllt y môr. Bydd y canfyddiadau wedyn ar gael ar y Gyfnewidfa Data Morol (MDE) ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy yn y môr yn y dyfodol i alluogi twf ynni llanw.
Mae Tanfor wedi gweithio gyda rhwydwaith o academyddion a busnesau blaenllaw ledled y DU a thu hwnt yn ystod cyfnod ymchwil a datblygu wrth ddatblygu'r cynllun hwn ar gyfer y diwydiant ac i fodloni gofynion amgylcheddol a chydsynio.
I gael rhagor o wybodaeth am Tanfor cysylltwch â'r tîm ar info@morlaisenergy.com a gweler y ddolen isod:
Tanfor | Morlais
Gweler y ddolen yn ôl i brif dudalen Prosiect ynni Morlais:
Prosiect - Menter Môn Cyf – Ynni - Gwerthwch2Cymru