Canllaw i Brynwyr
Canllaw caffael ac adnoddau i Brynwyr
Adnoddau Prynwr i Lawrlwytho
Mae'r tabl isod yn nodi'r isafswm amserlenni ar gyfer ymarferion caffael Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Mae pob amserlen yn dechrau o ddyddiad anfon yr hysbysiad i OJEU (y cam cyntaf) neu pan anfonir gwahoddiadau i dendro (yr ail gam).
Pwrpas y ddogfen hon yw hysbysu prynwyr am y gwahanol fathau o hysbysiad sydd ar gael drwy’r porth ac i roi cyfarwyddyd i chi ar arfer gorau o ran cynnwys a fformat i leihau unrhyw oedi rhwng cyflwyno eich hysbysiad a’i gyhoeddi. Os nad yw eich hysbysiad yn cadw at y cyfarwyddyd, mae’n bosibl y caiff ei “ddal” rhag ei gyhoeddi gan staff cymorth y porth tra chysylltir â chi i’w ddiwygio.
Hybu arfer gorau ym maes caffael yng Nghymru.
Mae cyfleuster SQuID (y Gronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr) ar gyfer prynwyr wedi cael ei ychwanegu at wefan GwerthwchiGymru. Mae’n darparu Squizard rhyngweithiol ar-lein sy’n creu set o gwestiynau SQuID sydd wedi’i theilwra’n arbennig ar gyfer pob diben caffael. Mae’r set gyflawn o gwestiynau SQuID, a’r canllawiau cysylltiedig, ar gael ar ffurf Word ar wefan y Canllaw Cynllunio Caffael hefyd.
Sefydlwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) i Gymru er mwyn i’r sector cyhoeddus allu cydweithio’n agosach wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau.