Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Y newyddion diweddaraf am y fforwm adeiladu

 

Fel rhan o waith y Fforwm Adeiladu i godi ymwybyddiaeth a gwella prosesau talu, mae ei weithgor Seilwaith wedi cynhyrchu set newydd o ganllawiau syml i'w defnyddio ar gyfer defnyddio cyfrifon banc prosiect (PBA) o fewn contractau'r sector cyhoeddus, sy'n rhoi sicrwydd llif arian i gontractwyr a busnesau bach a chanolig.

Un o ofynion allweddol Llywodraeth Cymru a'r Fforwm Adeiladu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig Covid-19 oedd cefnogi'r sector adeiladu ar y cyd yn enwedig gyda sicrwydd piblinellau gwaith yn y dyfodol a phrosesau caffael a thalu effeithlon.  Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Lee Waters, "Rwy'n falch iawn bod y Canllawiau Cyfrifon Banc Prosiectau syml hyn wedi dod allan o'r Fforwm Adeiladu.

"Mae'r canllawiau hyn yn rhoi hyder i gleientiaid, contractwyr a busnesau bach ynglŷn â thaliadau, yn enwedig yn ystod y cyfnod eithriadol hwn. Mae'r canllaw yn ategu'r wybodaeth a'r hyfforddiant manwl sydd ar gael drwy Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru.

"Rwyf wrth fy modd bod rhai Awdurdodau Lleol a chontractwyr eisoes wedi defnyddio'r canllawiau'n effeithiol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r sector adeiladu i sicrhau sector ffyniannus cynaliadwy sefydlog yng Nghymru."

Mae defnyddio CBP yn rhoi sicrwydd i gleientiaid, contractwyr ac yn enwedig BBaChau ynghylch taliadau yn enwedig yn ystod y cyfnod eithriadol hwn.  Mae'r canllaw yn ategu'r wybodaeth a'r hyfforddiant manwl sydd ar gael drwy gaffael Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Drafftiwyd canllawiau'r PBA gan yr Athro Rudi Klein ynghyd â Michelle Morgan-Loughman o Actuate UK Wales, ac maent yn darparu 12 cam syml i gleientiaid a chontractwyr ar sefydlu a defnyddio Michelle Morgan-Loughman pBA 'Mae wedi bod dros dair blynedd ers i Lywodraeth Cymru orfodi cyfrifon banc prosiect ac mae ei defnydd eisoes wedi diogelu llawer o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn y gadwyn cyflenwi adeiladu rhag taliadau hwyr a llif arian.

Gyda diolch i Fforwm Adeiladu Cymru a'i gadeirydd, y Dirprwy Weinidog Lee Waters AS, ein cydweithwyr yng Chynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru a'r Athro Rudi Klein, bydd y canllaw cam wrth gam hawdd hwn yn sicrhau mabwysiadu ehangach gan fod yr arfer hwn yn rhan annatod o gaffael cyhoeddus ac yn helpu'r diwydiant i wella o'r pandemig."

Dywedodd Ed Evans Cadeirydd Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru "Llif arian yw bywyd ein diwydiant a gobeithiwn y bydd y canllaw syml hwn, a baratowyd ac a gyhoeddwyd drwy bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn annog cleientiaid yn y sector cyhoeddus i chwarae eu rhan wrth helpu busnesau.

Bydd sefydlu Cyfrifon Banc Prosiect yn diogelu arian sy'n ddyledus i'r gadwyn gyflenwi, yn cyflymu taliadau ac yn sicrhau, yn yr achosion gwaethaf o gontractwyr mawr sy'n mynd i'r wal, nad yw busnesau llai ar eu colled."

Canllaw 12 Cam Syml - Sefydlu Cyfrif Banc Prosiect yng Nghymru

Sefydlu Cyfrif Banc Prosiect yng Nghymru

Trywydd i adeiladau carbon sero-net yng Nghymru

Trywydd i adeiladau carbon sero-net yng Nghymru

Yn ôl i Fforwm Adeiladu Cymru

diweddarwyd: 07/10/21