Mae gwefan newydd wedi'i lansio ar gyfer Hanfodion Seiber: cynllun ardystio wedi'i gefnogi gan y llywodraeth a gaiff ei redeg gan Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol sydd wedi'i anelu at annog pob sefydliad yn y DU i ddiogelu ei hunain rhag y mathau mwyaf cyffredin o ymosodiadau seiber.
Wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth y DU mewn partneriaeth â diwydiant Prydain, amlinella'r cynllun bum cam syml o reolaethau technegol er mwyn helpu i gadw systemau sydd wedi'u cysylltu â'r rhyngrwyd a'r data sydd arnynt yn ddiogel.
Canfu gwaith ymchwil gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon bod bron hanner (45%) o bob busnes bach/micro wedi nodi achos o dorri seiberddiogelwch neu ymosodiad seiber yn 2017.
Mae Hanfodion Seiber yn cynnwys dwy lefel o ardystio;
- hunanasesiad sy'n cynnig diogelwch rhag pum rheolaeth dechnegol 'hanfodol';
- cynllun Hanfodion Seiber a Mwy sy'n sicrhau bod yr un mesurau diogelu ar waith, ond mai corff annibynnol sy'n ei ddilysu.
Dangosa ardystio bod sefydliad yn cymryd seiberddiogelwch o ddifrif a'i fod yn bodloni'r safonau a nodir yn y cynllun Hanfodion Seiber. Gellir ei ddefnyddio hefyd gan sefydliadau sydd eisiau sicrwydd bod eu cadwyni cyflenwi yn seiberddiogel. Mae'n orfodol bod pob sefydliad sy'n cyflenwi i lywodraeth ganolog, sy'n cynnwys ymdrin â gwybodaeth bersonol a darparu rhai cynhyrchion a gwasanaethau TG penodol, yn gallu dangos lefelau effeithiol o seiberddiogelwch eu systemau, a bod ganddynt dystysgrif Hanfodion Seiber.
Mae'r wefan yn casglu gwybodaeth ynghyd o amrywiaeth o wefannau'r llywodraeth, er mwyn helpu i wneud proses Hanfodion Seiber mor glir a syml â phosibl. Mae hefyd yn cynnwys cronfa ddata o sefydliadau sydd wedi cael systemau wedi'u hardystio o dan y cynllun yn y flwyddyn ddiwethaf, gan ganiatáu i gwsmeriaid ddilysu manylion eu cadwyni cyflenwi mewn un man.
Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg
Cyhoeddwyd gyntaf
05 Chwefror 2018
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024