Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Sesiwn ar Gadwyn Gyflenwi Trafnidiaeth Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
08 Chwefror 2019
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024
Dydd iau 21 Chwefror - 8:00am - 11:00am The General Offices General Offices Steelworks Road Ebbw Vale Blaenau Gwent NP23 6AA Cwmni dielw, sy'n eiddo'n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru, yw Trafnidiaeth Cymru. Fe'i sefydlwyd er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith o wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ein rhwydwaith trafnidiaeth. Ei dymuniad yw datblygu rhwydwaith o ansawdd uchel, sy'n ddiogel, yn integredig, yn fforddiadwy ac yn hygyrch, ac yn un y gall pobl Cymru fod yn falch ohono. Mae gan Trafnidiaeth Cymru ran allweddol i'w chwarae o ran cyflawni prif themâu Llywodraeth Cymru, sy'n cael eu hamlinellu yn Ffyniant i Bawb: y Strategaeth Genedlaethol. Mae ganddo hefyd rôl allweddol o ran cyrraedd y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn rhan o'n hymrwymiad, mae Trafnidiaeth Cymru yn ceisio meithrin cysylltiadau â chynifer o gyflenwyr bach lleol ag y bo modd drwy'r gadwyn gyflenwi. Ar y cyd â Busnes Cymru a Chyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal sesiwn i godi ymwybyddiaeth am y gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau lleol. Cynhelir y sesiwn yn y Swyddfa Gyffredinol yng Nglynebwy ddydd Iau, 21 Chwefror rhwng 8:00am ac 11:00am. Bydd angen cwmnïau o sawl sector gwahanol ar Trafnidiaeth Cymru er mwyn iddo fedru bwrw ymlaen â'i waith, gan gynnwys adeiladu, peirianneg, bwyd a diod, rheoli cyfleusterau, llety, cynnal tiroedd, trafnidiaeth etc. Gallai'ch busnes chi fod yn rhan o'r prosiect cyffrous hwnnw. Bydd Busnes Cymru yn rhoi cyflwyniad ar gymorth tendro yn ystod y bore, ac mae'r cymorth hwnnw'n cynnwys sut i gynllunio a thendro am gontractau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, sut i sicrhau bod eich busnes yn ‘Barod i Dendro’, arweiniad ar e-gaffael etc. Byddwch yn cael golwg gyffredinol hefyd ar yr hyn y gall Busnes Cymru ei gynnig, gan gynnwys cymorth, cyngor ac arweiniad arbenigol diduedd i fusnesau syn awyddus i dyfu.
Cyhoeddwyd gyntaf
08 Chwefror 2019
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.