28 Chwefror 2018 - 9am-4pm
Stadiwm Dinas Caerdydd, Heol Lecwydd, Caerdydd CF11 8AZ
Mae LCB Construction yn gobeithio ehangu cadwyn gyflenwi’r cwmni mewn digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’, er mwyn cefnogi nifer o ddatblygiadau yn ne Cymru y maen nhw’n cyfrannu atynt ar hyn o bryd. Os ydych chi’n gweithio yn yr ardal hon, dylai’r digwyddiad hwn fod o ddiddordeb i chi.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â chadwyn gyflewni LCB Construction, mae croeso i chi fynychu’r digwyddiad – byddem wrth ein boddau yn cwrdd â chi er mwyn rhannu gwybodaeth gyda chi am y cwmni, ein hanghenion cymorth a darpar brosiectau.
Pwrpas y digwyddiad yw ymgysylltu ag isgontractwyr a sefydliadau trydydd sector sydd eisiau gweithio gydag LCB Construction. Yn ogystal, bydd Dyfodol Adeiladu Cymru yn y digwyddiad er mwyn cynorthwyo mynychwyr.
Cyhoeddwyd gyntaf
12 Chwefror 2019
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024