Os ydych chi’n fusnes yn y DU sy’n masnachu â’r UE, neu os ydych chi’n cefnogi busnes o’r fath, yna mae gan CThEM dudalen benodol 'Adnoddau cyfathrebu' sy’n helpu i esbonio’r camau y mae’n rhaid i chi eu cymryd i baratoi, ac mae’n cynnig arweiniad a chymorth pellach ar gyfer pob cam.
Mae’r dudalen yn cynnwys:
- canllawiau cam-wrth-gam ar gyfer mewnforwyr ac allforwyr y DU - mae’r rhain yn nodi’r camau allweddol y mae’n rhaid iddyn nhw eu cymryd i baratoi eu busnes
- manylion y canllawiau diweddaraf ar feysydd allweddol, megis sut i lenwi datganiadau tollau yn llwyddiannus a sut i symud nwyddau i’r UE drwy borthladdoedd rholio ymlaen / rholio i ffwrdd
- dolenni i’r hysbysiadau technegol a gyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd
- copïau o’r llythyrau diweddaraf a anfonwyd at fasnachwyr y DU i’w llywio wrth baratoi i ymadael â’r UE
- gwybodaeth am y cymorth a’r arweiniad pellach sydd ar gael
Cyhoeddwyd gyntaf
18 Mawrth 2019
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024