Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Caffael sector cyhoeddus ar ôl Brexit heb gytundeb – beth mae’n ei olygu i fusnesau?

Cyhoeddwyd gyntaf:
08 Ebrill 2019
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024
Os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, bydd y rheoliadau caffael cyhoeddus yn aros yr un fath fwy neu lai ar ôl inni adael yr UE. Caiff y rheoliadau presennol eu newid i sicrhau eu bod yn parhau’n weithiadwy a gweithredol ar ôl inni adael. Bydd mwyafrif y rheoliadau caffael ac, yn arbennig, y gwahanol weithdrefnau sydd ar gael i awdurdodau ac endidau yn aros yn union yr un fath. Y gwahaniaeth allweddol i awdurdodau contractio fyddai’r angen i anfon hysbysiadau at wasanaeth e-hysbysiadau newydd i’r DU yn lle Swyddfa Cyhoeddiadau’r UE. Bydd angen i gyflenwyr sy’n dymuno gweld cyfleoedd contractio yn y DU gan sector cyhoeddus y DU fynd i wasanaeth e-hysbysiadau newydd y DU yn hytrach nag i’r Tenders Electronic Daily (TED). Gall cyflenwyr barhau i ddefnyddio’r pyrth domestig perthnasol, megis Contracts Finder, MOD Defence Contracts Online, Public Contracts Scotland, GwerthwchiGymru ac eTendersNI. Bydd gwasanaeth e-hysbysiadau newydd y DU yn barod i’w ddefnyddio erbyn y diwrnod ymadael.
Cyhoeddwyd gyntaf
08 Ebrill 2019
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.