Annwyl Gyflenwr,
Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yng Ngwobrau GO am Ragoriaeth ym maes Caffael Cyhoeddus yng Nghymru.
https://www.goawards.co.uk/Wales
Caiff Gwobrau GO Cymru eu cynnal mewn cydweithrediad â Procurex Cymru, sef prif ddigwyddiad caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru a gefnogir yn swyddogol gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn cydnabod rhagoriaeth ac arloesedd ym mhob agwedd ar gaffael. Mae’r gwobrau’n arddangos llwyddiannau sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol tuag at fodloni amcanion marchnadfa caffael cyhoeddus Cymru, a rhagori ar hynny.
Uchafbwynt y Gwobrau fydd Cinio Gala a seremoni wobrwyo swyddogol gyda'r nos ar 18 Mawrth yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd, lle bydd dros 350 o benderfynwyr uchel eu proffil yn bresennol.
Mae 12 categori yng Ngwobrau GO, sy’n amlygu cyfraniad y gymuned fywiog o brynwyr a chyflenwyr yng Nghymru. Mae cymryd rhan yng Ngwobrau GO yn gyfle gwych i ddangos llwyddiannau eich sefydliad. Fel cam cyntaf, rydym yn eich gwahodd i fynegi eich diddordeb yn https://www.goawards.co.uk/Wales
Hefyd, dim ond nifer cyfyngedig o gyfleoedd noddi sydd ar gael yng nghyswllt y Gwobrau a Procurex Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch arddangos eich brand a’ch sefydliad yn uniongyrchol i’r gynulleidfa ddylanwadol hon yn ystod digwyddiadau'r dydd a’r nos, ffoniwch 0845 270 7066 neu anfon e-bost at sponsor@goawards.co.uk
Gallwch gymryd rhan yng Ngwobrau GO Cymru yn rhad ac am ddim; ewch i gofrestru eich diddordeb heddiw.
Dymuniadau gorau,
Tîm Digwyddiadau Procurex Cymru a Gwobrau GO Cymru
Cyhoeddwyd gyntaf
21 Tachwedd 2019
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024