Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysebu contractau mewn Brexit heb gytundeb

Cyhoeddwyd gyntaf:
02 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024

Os yw'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, bydd yn ofynnol o hyd i awdurdodau contractio'r DU gyhoeddi hysbysiadau contract a bydd y rheoliadau caffael cyhoeddus yn aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn colli mynediad i atodiad ar-lein Cyfnodolyn Swyddogol yr UE (OJEU) ac i Tenders Electronic Daily (TED). Felly, mae Llywodraeth y DU wedi diwygio deddfwriaeth gyfredol i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio'r DU gyhoeddi hysbysiadau contract i wasanaeth e-hysbysu newydd yn y DU o'r enw Find a Tender (FTS).

Yng Nghymru, bydd awdurdodau cyhoeddus yn parhau i hysbysebu hysbysiadau contract ar GwerthwchiGymru. Bydd unrhyw gontractau a fyddai wedi bod yn uwch na throthwy'r OJEU ac a fyddai wedi'u hanfon at TED, yn cael eu hanfon at FTS yn lle.

Os byddwn yn gadael heb gytundeb, bydd cyflenwyr cofrestredig GwerthwchiGymru yn parhau i dderbyn hysbysiadau a chael mynediad at hysbysiadau cyhoeddedig. Bydd Hysbysiadau uwchlaw'r trothwy hefyd yn cael eu hysbysebu ar FTS (yn ogystal â GwerthwchiGymru).

 

Mae Swyddfa'r Cabinet wedi diweddaru eu canllawiau i awdurdodau cyhoeddus, busnesau a sefydliadau eraill ar y canlyniad ar gyfer polisi caffael cyhoeddus mewn senario Brexit heb gytundeb.



Cyhoeddwyd gyntaf
02 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024
Hysbysebu contractau mewn Brexit heb gytundeb

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.