WaterSafe yw'r gofrestr genedlaethol o blymwyr cymeradwy. Mae ganddi gefnogaeth holl
gwmnïau dŵr y DU, gan gynnwys Dŵr Cymru, a'r rheoleiddiwr dŵr yfed.
Cafodd ei sefydlu i hyrwyddo plymwyr medrus er mwyn helpu i gadw dŵr yfed Cymru’n ddiogel
a’i amddiffyn rhag difwyniad.
Mae holl Blymwyr Cymeradwy WaterSafe wedi cael hyfforddiant penodol ac wedi ennill
cymwysterau'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999.
Ac am fod rhaid i bob eiddo sy'n cael eu cyflenwadau gan Ddŵr Cymru gydymffurfio â'r
rheoliadau hyn, mae'r cwmni'n annog ei holl gwsmeriaid i ddefnyddio plymwyr WaterSafe.
Beth yw manteision bod yn aelod o WaterSafe?
- Hyrwyddo a brandio am ddim - bydd eich enw’n ymddangos yn y cyfeirlyfr ar-lein mwyaf
o blymwyr cymeradwy yn y DU, y mae Dŵr Cymru'n ei hyrwyddo i'w dair miliwn o
gwsmeriaid.
- Sicrwydd i gwsmeriaid – eich bod chi'n gymwys i weithio gyda dŵr yfed a bod gennych
gefnogaeth Dŵr Cymru a'r rheoleiddiwr dŵr yfed.
- Cysylltiad uniongyrchol â Dŵr Cymru - i'n hysbysu ni am waith plymio a chael cyngor am
ddim ar y rheoliadau a'r is-ddeddfau dŵr.
Felly, cymrwch y blaen ar eich cystadleuwyr a chyrraedd mwy o gwsmeriaid – a’r cyfan gyda
chefnogaeth Dŵr Cymru.
Sut mae mynd ati i ymuno?
Rhaid i'r plymwyr fod yn gymwys, rhaid iddynt fod â thystysgrif ffitiadau dŵr cydnabyddedig, a
rhaid iddynt fod yn aelod o un o'r saith Cynllun Contractwyr Cymeradwy sy'n ffurfio WaterSafe.
Wedyn gallant ymuno â WaterSafe am ddim.
Yng Nghymru, y saith cynllun yw:
- Cynllun Plymwyr Cymeradwy'r Diwydiant Dŵr (WIAPS)
- Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Plymio a Gwres (CIPHE)
- Cymdeithas y Contractwyr Plymio a Gwres (APHC)
- Cynllun WaterMark Severn Trent, sy'n gweithredu yn yr ardal a wasanaethir gan Severn
Trent Water yn unig.
Cewch ymuno â WIAPS am ddim, gyda chefnogaeth Dŵr Cymru, a hi yw'r cynllun mwyaf un.
Er mwyn ymuno â WIAPS a WaterSafe
1. Rhaid i unigolion feddu ar gymhwyster plymio cydnabyddedig. Mae dros 60 o wahanol
gymwysterau’n dderbyniol. Mae’r manylion llawn ar gael gan WIAPS.
2. Dylai'r cymhwyster plymio gael ei ategu gan dystysgrif gydnabyddedig yn y rheoliadau
ffitiadau dŵr. Bydd WIAPS yn gallu darparu rhestr o gyrff ardystio sy'n cynnig tystysgrifau
i ardystio Gwybodaeth am Reoliadau Dŵr.
3. Dylai fod gan y cwmni neu'r unigolyn o leiaf lefel sylfaenol o Yswiriant Atebolrwydd
Cyhoeddus (£2m) a lle bo'n briodol, o leiaf lefel sylfaenol o Yswiriant Atebolrwydd
Cyflogwr (£5m).
Bydd Dŵr Cymru’n gofyn hefyd eich bod chi ar gael i fynychu cyfarfodydd safle o bryd i'w gilydd,
fel y gall rannu'r newyddion diweddaraf am y diwydiant, sicrhau bod eich gwaith yn parhau i
gydymffurfio, ac i feithrin perthnasau gwaith cefnogol gyda'r aelodau.
Gwybodaeth bellach:
Dŵr Cymru: Ewch i www.dwrcymru.com neu cysylltwch â'r tîm Rheoliadau Dŵr yn
waterregulations@dwrcymru.com.
WIAPS: Ewch i wefan WRAS yn wras.co.uk neu cysylltwch â WIAPS yn wiaps@wras.co.uk neu ar
0333 207 9030 (opsiwn 1). Byddan nhw'n gallu helpu gyda chwestiynau am ymuno â WIAPS a
WaterSafe.
WaterSafe: Ewch i watersafe.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am ymuno os ydych chi’n
aelod o Gynllun Contractwyr Cymeradwy eisoes
Cyhoeddwyd gyntaf
03 Mawrth 2020
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024