Os ydych chi’n cael llai o waith neu ddim gwaith oherwydd y
coronafeirws efallai y gallwch chi hawlio grant drwy’r Cynllun Cymorth Incwm
i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws.
Hefyd, efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
ar ei newydd wedd os yw un o’r canlynol yn berthnasol i chi neu’ch plentyn, ar
hyn o bryd neu rywbryd yn y gorffennol:
- bod
eich lefel risg yn uchel am fod gennych gyflwr iechyd isorweddol
(gwarchod)
- eich
bod yn hunanynysu am fod gennych symptomau coronafeirws
- eich
bod yn hunanynysu am eich bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun gyda
symptomau coronafeirws, neu eich bod wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu
gan wasanaeth profi ac olrhain
Os hoffech ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.
Cyhoeddwyd gyntaf
09 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024