Mae PUBLIC yn gweithio gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i gynnal adolygiad darganfod o'r tirlun eGaffael presennol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn deall yn well pa offer a systemau caffael y dylai awdurdodau fod yn eu defnyddio.
Rydym yn ceisio mewnbwn gan ddefnyddwyr presennol a darpar ddefnyddwyr systemau eGaffael, i ddweud wrthym beth yw eu hanghenion, a pha fath o system yr hoffent ei defnyddio.
Os hoffech gyfrannu at y broses hon drwy ymuno â sesiwn fer i gyfweld â defnyddwyr, y ffordd gyflymaf yw llenwi'r ffurflen fer hon (sy'n cymryd llai na 2 funud i'w chwblhau) i gyflwyno eich manylion a'ch argaeledd.
Fel arall, anfonwch e-bost at joe@public.io, a gallwn sefydlu sesiwn drwy e-bost.
Ni fydd y sesiwn yn para mwy na 45 munud, a bydd yn ymdrin â'r hyn sydd ei angen arnoch o system eGaffael yn ogystal â'ch profiadau gyda'r offer eGaffael a ddefnyddiwch ar hyn o bryd.
Rhowch wybod i ni a hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Diolch i bob un ohonoch sydd eisoes wedi trefnu cyfweliad - rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi!
Cyhoeddwyd gyntaf
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024