3 Awst 2021, 09:00 - 09:45
Digwyddiad ar-lein
Cost: Am ddim
Mae'r cydweithrediad Ôl-ffitio Optimaidd a GwerthwchiGymru yn eich gwahodd i ddigwyddiad ar-lein, ddydd Mawrth 3 Awst, 9:00am, i ddweud wrthych am y Prosiect Ôl-ffitio Optimaidd a'r farchnad ôl-ffitio gynyddol yng Nghymru, a darparu briff manwl ar rôl storio batris a systemau ynni clyfar.
Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi cyflwyniad i Busnes Cymru ac esboniad o sut y gallwn eich cefnogi chi a'ch busnes i fod yn barod i dendro am waith yn y sector hwn yn y dyfodol.
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at y rhai sydd â diddordeb yn y sectorau ôl-ffitio a datgarboneiddio, a'r rhai sy'n gweithio ym maes trydan (a'u timau) yng Nghymru i roi trosolwg o:
- Beth yw Ôl-ffitio optimaidd a sut mae'r farchnad ôl-ffitio yn datblygu
- Beth yw'r cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a masnachwyr?
- Cyflwyniad i storio batri gan sonnenBatterie
- Sut allwn ni eich helpu?
Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael ar y darganfyddwr digwyddiadau Busnes Cymru.
Cyhoeddwyd gyntaf
30 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024