Mae iechyd a lles emosiynol ar agenda pawb. Mae mwy o blant a phobl ifanc yn profi iechyd meddwl a lles emosiynol gwael gan gynnwys lefelau cynyddol o bryder, iselder a hunan niweidio. Mae’r galw am gefnogaeth yn cynyddu ar draws bob sector gwasanaeth ac er gwaethaf ymdrechion pawb, mae gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc ar hyn o bryd yn amrywio’n fawr ar draws Gogledd Cymru. Nid yw llwybrau gofal bob amser yn glir, ac nid yw cyfeiriadau at wasanaethau bob amser yn briodol.
Bydd y ffrwd gwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol (rhan o’r Rhaglen Trawsnewid Plant a Phobl Ifanc yng Ngogledd Cymru) yn datblygu fframwaith a fydd yn:
- cwmpasu’r ‘Pum Ffordd at Lesiant’
- yn ddwyieithog, yn unol â deddf yr Iaith Gymraeg
- yn tanategu datblygiad adnoddau
- cael ei fapio yn erbyn cerrig milltir datblygiadol plant 8-11 oed
- yn canolbwyntio ar ymyriad cynnar i blant a’u teuluoedd
Mae gan bob sgil craidd neu ymddygiad frawddeg ‘Mi fedraf’ o safbwynt plentyn / unigolyn ifanc, rhiant neu ofalwr ac oedolyn dibynadwy arall.
Yr her SBRI yw i benderfynu ar y dull digidol mwyaf effeithiol i sicrhau bod cynnwys y fframwaith yn hygyrch i ddefnyddwyr sy’n cynnwys y plentyn / unigolyn ifanc, rhiant/gofalwr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, a bydd yn cael ei gynnal ar sail barhaus. Bydd cynnwys y fframwaith yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymarfer, ac yn cael ei arwain gan y rhai sy’n gweithio ym meysydd iechyd meddwl, addysg a gofal cymdeithasol.
Byddai datrysiad angen ystyried y canlynol:
- hunan gymorth dan arweiniad i blant a’u teuluoedd
- profiadau gwahanol sy’n gyffrous a deniadol i ddefnyddwyr yn dibynnu pwy ydynt e.e. plant, rhieni, gweithwyr proffesiynol
- hawdd eu llywio
- angen dangos gallu dwyieithog ar gyfer cam 2
- addasadwy (e.e. brandio ar gyfer plant 8-11 oed a ganddynt)
- gellir ei gynnal gan ddefnyddwyr perthnasol (e.e. diweddaru cynnwys)
- gallu addasu a thyfu
- yn fforddiadwy, dangos gwerth am arian
- gallu dadansoddi defnydd
Bydd her SBRI yn agwedd ‘carlam’ 2 Gam sydd wedi’i fanylu isod, i’w gwblhau erbyn diwedd Ionawr 2022.
Strwythur yr Her:
Cam 1
Ymarferoldeb ac Arddangoswr – Rydym yn edrych i ariannu hyd at bedwar prosiect hyd at £10,000.00 yr un, yn cynnwys TAW, i’w cyflwyno dros gyfnod o 2 fis. Oherwydd natur gyflym y prosiect, byddai’r datrysiadau ar ddiwedd y cam hwn ar ffurf prototeip yn barod i’w arddangos yn y cam nesaf.
Cam 2
Datblygu a Phrofi – Fe all y prosiectau mwyaf addawol yng Ngham 1 gael y cyfle i gael mynediad at gyllid ychwanegol i gael eu datblygu ymhellach a phrofion cadarn. Gall ymgeiswyr llwyddiannus geisio am gyfran o £40,000.00 yn cynnwys TAW, gyda’r bwriad o ddatblygu dau brosiect Cam 1 (£20,000 yr un) i ddarparu sicrwydd, dilysiad a phrawf bychan o gysyniad. Dylai’r datrysiad ar ddiwedd y cam hwn fod yn fasnachol ymarferol ac yn barod i’w brynu.
Dyddiadau Allweddol:
Carreg filltir
|
Dyddiadau allweddol ** gallant newid
|
Lansiad yr Her
|
2 Awst 2021
|
Digwyddiad briffio
|
Wythnos yn dechrau 16 Awst 2021
|
Dyddiad cau
|
31 Awst 2021
|
Cyfarfod â chyflenwyr
Bydd y Bwrdd yn sgorio ceisiadau 1-5
|
Wythnos yn dechrau 6 Medi 2021
|
Gwobrwyo Cytundebau ar gyfer Cam 1
|
13 Medi 2021
|
Dechrau Cam 1
|
4 Hydref 2021
|
Dechrau Cam 2
|
29 Tachwedd 2021
|
Cau’r Prosiect
|
24 Ionawr 2022
|
Digwyddiad Briffio
Dilynwch y ddolen i gofrestru eich diddordeb ar gyfer y Digwyddiad Briffio.
Manylion a ychwanegwyd yn fuan
Gwybodaeth bellach
Cyhoeddwyd gyntaf
04 Awst 2021
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024