Mae busnesau mawr a bach yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad ar-lein i edrych ar ffyrdd hawdd o wella lles ariannol staff y mis nesaf (22 Chwefror 2022).
Bydd y digwyddiad, a gynhelir gan Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), gyda siaradwyr yn cynnwys y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt, a Rhian Hughes o MoneyHelper, yn canolbwyntio ar ffyrdd syml o hybu cadernid ariannol staff gyda Moneyworks Cymru – cynllun cynilo cyflog am ddim a ddefnyddir gan fwy na 150 o gyflogwyr.
Gall cyflogwyr sy’n cofrestru ar gyfer Moneyworks Cymru gynnig cyfle i staff gynilo neu fenthyg a gwneud adneuon yn uniongyrchol o’u cyflog – yn debyg iawn i yswiriant gwladol neu dreth incwm – cyn iddo gyrraedd eu cyfrif banc.
Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac unwaith y daw busnes yn bartner cyflogres, gall staff gofrestru i gynilo neu fenthyg trwy wefan Moneyworks Cymru, lle gallant hefyd gael mynediad i offer cyllidebu rhyngweithiol ac awgrymiadau i’w helpu i reoli eu harian yn well wedi’u dylunio gan arbenigwyr yn MoneyHelper.
Dywedodd Mike Learmond, uwch reolwr datblygu FSB Cymru: “Gall helpu gweithwyr i wella eu lles ariannol a darparu modd i wneud hynny gael effaith gadarnhaol ar y busnes ei hun. Canfu’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu fod un o bob pedwar gweithiwr yn dweud bod pryderon ariannol wedi effeithio ar eu gallu i wneud eu swydd.”
Mae Moneyworks Cymru yn gydweithrediad rhwng 10 cwmni cydweithredol ariannol dielw, ac mae busnesau sydd eisoes yn defnyddio’r cynllun yn cynnwys Legal & General, Admiral Insurance ac Airbus.
Dywedodd Rhian Hughes Rheolwr Partneriaeth Cymru, Gwasanaeth Arian a Phensiynau: ‘Hyd yn oed cyn COVID-19, roedd heriau sylweddol i les ariannol yng Nghymru gyda 27% o oedolion yng Nghymru â llai na £100 mewn cynilion a buddsoddiadau ac nid oedd dwy ran o dair (66%) yn fodlon ar eu hamgylchiadau ariannol cyffredinol. Mae’r pandemig wedi dangos i ni ei bod yn bwysicach nag erioed i sefydliadau gefnogi eu gweithwyr i adeiladu eu lles ariannol.”
Dywedodd Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Bydd angen cymorth ar lawer ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau ac mae cynnyrch cyflogres Moneyworks Cymru yn cynnig y cymorth sydd ei angen ar gyflogeion i wneud i’w harian weithio iddynt a dod yn fwy gwydn yn ariannol, tra’n araf adeiladu byffer cynilion. Rwy’n annog cyflogwyr yn gryf i weithio gyda’u hundeb credyd lleol i gefnogi eu staff yn well yn ariannol, a thu hwnt.”
Dywedodd Claire Savage, Swyddog Polisi yn Undebau Credyd Cymru: “Ni fu erioed amser pwysicach i fusnesau gefnogi eu gweithwyr gyda’u harian. Trwy roi’r offer i weithwyr ddod yn wydn yn ariannol, boed hynny trwy fynediad at fenthyciadau teg a moesegol neu gynnyrch cynilo di-drafferth, mae cyflogwyr hefyd yn adeiladu gweithlu hapusach a mwy cynhyrchiol.”
I ddarganfod mwy ac ymuno â’r digwyddiad ewch i: https://www.fsb.org.uk/event-calendar/promoting-employee-financial-wellbeing-in-wales-through-salary-saving.html?aff=PTNRS
Cyhoeddwyd gyntaf
24 Ionawr 2022
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024