Yn defnyddio rheoliad 72 PCR i ymateb i heriau pwysau chwyddiant
18 Ionawr 2023, 11:00 - 12:30
Digwyddiad ar-lein
Cost: Am ddim
Bydd y cwmni cyfreithwyr o Gaerdydd, Huw James, yn cynnal digwyddiad rhithiol yn rhad ac am ddim i drafod rhai o’r heriau mwyaf cyffredin y mae awdurdodau contractio yn eu hwynebu yn eu contractau cyhoeddus yng ngoleuni’r pwysau parhaus o ran chwyddiant a’r gadwyn gyflenwi.
Bydd y gweminar yn ymdrin â'r opsiynau sydd ar gael i awdurdodau contractio i ddiwygio contractau cyhoeddus gan ddibynnu ar reoliad 72 PCR a sut y gall hyn gynorthwyo awdurdodau contractio i reoli eu contractau cyhoeddus yng ngoleuni costau cynyddol a newidiadau i'r farchnad.
Cynhelir y gweminar ar-lein ar 18 Ionawr 2023 am 11:00 – 12:00. I gofrestru, cliciwch yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn i Emily Powell, Partner - Pennaeth Caffael, anfonwch nhw i’r blwch post gallu masnachol erbyn ddydd Gwener, 13 Ionawr 2023: CommercialCapability@gov.wales.
Cyhoeddwyd gyntaf
05 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024