Mae prosiect Canolfan Peirianneg ac Opteg Menter wedi cyhoeddi cyfle tendr newydd gwerth £8.35 miliwn i ddylunio ac adeiladu'r ganolfan newydd a fydd yn cefnogi busnesau gweithgynhyrchu yn y rhanbarth i ddatgarboneiddio.
Mae prosiect Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gwahodd busnesau i gyflwyno ceisiadau i ddylunio ac adeiladu'r adeilad newydd ar safle Plas Coch, gan gynnwys gosod cyfleuster cymhwyso hydrogen a phaneli ffotofoltaidd ynni adnewyddadwy.
Nod y prosiect yw cefnogi busnesau gweithgynhyrchu yn y rhanbarth i ddatgarboneiddio drwy archwilio'r defnydd integredig o opteg, ffotoneg a chyfansoddion fel atebion amgen, ysgafnach eu pwysau ar draws yr holl arbenigeddau gweithgynhyrchu.
Darllenwch fwy: Cyfle Tendro Newydd ar gyfer Dylunio ac Adeiladu'r Ganolfan Peirianneg ac Opteg Menter.
Dyddiad Cau: 14/04/23
Cofnodwch eich diddordeb nawr: Gweld Hysbysiad - GwerthwchiGymru (llyw.cymru)
Cyhoeddwyd gyntaf
29 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf
07 Mawrth 2024