Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Pŵer Partneriaethau ym maes Adeiladu

Dyddiad y digwyddiad - 23 Chwefror 2026, 09:30 - 15:00.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
12 Chwefror 2026

23 Chwefror 2026, 09:30 - 15:00
Ysgol Busnes Caerdydd, Caerdydd, CF10 3EU

Cost: Wedi'i ariannu'n llawn 

Crynodeb

Mae gwneud ceisiadau drwy gydweithredu a phartneriaeth yn llwybrau cynyddol bwysig i fusnesau adeiladu Cymru sy'n dymuno cael mynediad at gontractau cyhoeddus a chystadlu am gyfleoedd mwy o faint. 

Bydd y digwyddiad hwn a ariennir yn llawn yn archwilio sut y gall cydweithredu ar draws y gadwyn gyflenwi adeiladu helpu busnesau i ddod o hyd i gontractau, ennill gwaith newydd a chreu perthnasoedd cryfach â phrynwyr. Byddwch yn clywed gan fusnesau o Gymru sydd wedi gweithio gyda'i gilydd yn llwyddiannus i sicrhau contractau sector cyhoeddus, ochr yn ochr â mewnwelediadau arbenigol gan brynwyr ac arbenigwyr caffael.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer cyflenwyr sy'n gweithredu mewn sectorau adeiladu, neu'n eu cyflenwi, a sectorau sy’n gysylltiadau ag eiddo, gan gynnwys tai, twristiaeth ac eiddo masnachol, gofal ac eiddo iechyd, sifil a thrafnidiaeth, cyfleustodau ac ynni.

Bydd yn arbennig o werthfawr i fusnesau bach a chanolig, mentrau cymdeithasol a chyflenwyr sydd â diddordeb mewn cydweithredu, cynnig partneriaeth a dod o hyd i gyfleoedd contract sector cyhoeddus. 

Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Archebwch nawr - Business Wales Events Finder - Pŵer Partneriaethau ym maes Adeiladu


Cyhoeddwyd gyntaf
12 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
12 Chwefror 2026
Pŵer Partneriaethau ym maes Adeiladu

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.