Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae’r Coleg yn dymuno penodi darparwr i ddatblygu pecyn adnoddau addysgol ymwybyddiaeth iaith ddwyieithog cyffredinol ar gyfer prentisiaid. Bydd y pecyn yn galluogi prentisiaid i gwblhau rhywfaint o’u cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyrraedd categori B3 yn y cofnod dysgu.
Drwy hyn, bydd y pecyn yn cyfrannu tuag at ddiwallu’r angen am weithwyr dwyieithog ar draws gwahanol sectorau ac ardaloedd daearyddol. Prif gynulleidfa’r pecyn fydd prentisiaid sydd â lefel cymharol isel neu ddim sgiliau iaith Gymraeg, ac felly dylai’r cynnwys gael ei lunio yn ôl y gofyn hwn.
CYNNWYS Y PECYN
Bydd y pecyn adnoddau yn cynnwys deunydd dysgu fydd yn:
- Cyflwyno’r Gymraeg a’i phwysigrwydd yn y gweithle.
- Gosod ffocws penodol ar gyflwyno ymadroddion gwasanaethau cwsmer a’u cyflwyno ar gyfer llwybrau galwedigaethol gwahanol.
- Adeiladu hyder y prentis i allu defnyddio ymadroddion syml gyda chwsmeriaid a chleientiaid ac arddangos hyn yn y gweithle.
- Cyflwyno ymwybyddiaeth iaith gan gyflwyno gwahanol agweddau ar fywyd a diwylliant Cymraeg a Chymreig.
- Gosod tasgau a gweithgareddau cysylltiedig â’r cynnwys i brofi dealltwriaeth iaith y prentis, gan gynnwys trawstoriad o sgiliau fel darllen a deall, gwrando, ysgrifennu.
- Gosod tasgau a gweithgareddau sy’n tynnu’r cyflogwr ei hun i mewn i’r sgwrs am y Gymraeg rhwng y prentis a’r cyflogwr.
- Annog y prentis i ddefnyddio adnoddau eraill er mwyn gwella eu sgiliau Cymraeg/dysgu Cymraeg e.e. defnyddio Cysgliad i gwblhau gweithgaredd.
- Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys deunydd hyfforddiant ar gyfer tiwtoriaid.
GOFYNION
Mae’r gofynion penodol ar gyfer y gwaith fel a ganlyn:
- Pecyn adnoddau dwyieithog cyffredinol sy’n galluogi prentis mewn unrhyw faes i gyrraedd B3 sef astudio rhywfaint o’i ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Pecyn sydd yn cynnwys deunydd dysgu fel a nodir uchod.
- Pecyn dwyieithog sy’n defnyddio Cymraeg Clir sy’n addas ar gyfer Lefel 1, 2 a 3.
- Pecyn hunan gyfeiriedig i’w gyflwyno gyda chymorth tiwtor.
- Darparu’r pecyn mewn dau fformat:
i. Pecyn cynhwysfawr aml-gyfrwng ar-lein sy'n cynnwys fideos
a/neu ffeiliau sain, tasgau a phrofion rhyngweithiol i
fesur dealltwriaeth a phrofi sgiliau dysgwyr.
ii.Fersiwn print o’r pecyn, yn cynnwys dolenni at y deunydd
ar-lein a, lle bo modd, gweithgareddau amgen yn lle’r
gweithgareddau na ellir ond eu cwblhau ar-lein.
- Ar gyfer y fersiwn ar-lein o’r pecyn, dylid darparu cynllun llwyfannu. Dylid bod modd llwyfannu’r adnodd mewn man(nau) sydd yn hygyrch i gynifer â phosib o brentisiaid, e.e. drwy ei ddarparu ar ffurf SCORM. Dylid ymgynghori â darparwyr prentisiaethau ynglŷn â’r dull mwyaf addas o lwyfannu a bydd angen cytuno gyda’r Coleg Cymraeg ar y trefniadau llwyfannu cyn symud ymlaen.
- Ar gyfer y fersiwn print o’r pecyn, dylid darparu cynllun ar gyfer argraffu a dosbarthu’r copïau print.
- Ymgynghori gydag arbenigwyr oddi fewn i’r sector prentisiaethau i sicrhau bod yr adnoddau yn cwrdd â’r gofyn.
- Osgoi dyblygu drwy ymchwilio i ddeunydd perthnasol sydd yn bodoli eisoes (er enghraifft, adnoddau a gynhyrchwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, a’r rhai a lwyfennir ar wefan adnoddau.cymru) a’i ailddefnyddio lle bo modd. Lle bo angen, sicrhau hawl i ddefnyddio unrhyw adnoddau eraill fel rhan o’r pecyn.
- Dylid sicrhau bod modd trwyddedu cynnwys gwreiddiol dan drwydded CC BY-SA 4.0.
Am fanylion llawn dylid cyfeirio at y Fanyleb atodol sydd i'w gweld o dan y tab Dogfennaeth Ychwanegol
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=89653 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|