Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain - ddylunio stondin ac adeiladu
Galwad am fynegiadau diddordeb
Trosolwg:
Yng ngrwp rhanddeiliaid llenyddiaeth ryngwladol yng Nghymru mae Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, British Council Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, Llenyddiaeth Cymru, Cyfnewidfa Llên Cymru, PEN Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.
Mae Cymru yn ymbresenoli ers amser hir yn Ffair Lyfrau Llundain drwy gyfrwng cyhoeddwyr a sefydliadau unigol, ond yn awr bydd y grwp yn llywio cydymddangosiad cyntaf Cymru yn y Ffair, 10-12 Ebrill 2018 yn Olympia Llundain, gyda stondin a digwyddiadau yno. Peilot yw hwn gyda’r gobaith o gael presenoldeb cynyddol yn y dyfodol yno ac mewn digwyddiadau diwydiannol, rhyngwladol eraill hefyd.
Nod y cylch gorchwyl:
Cynrychiolaeth gydlynol, weledol, ddwyieithog i Gymru yno drwy ddylunio stondin a thaflen mewn print ac yn ddigidol.
Brîff amlinellol:
· Adeiladu a dodrefnu stondin 2018
· Datblygu hunaniaeth weledol ddwyieithog gydlynol ar gyfer Cymru yn y Ffair yn 2018 gan gynnwys:
- Gwaith celf a dylunio dwyieithog i stondin Cymru
- Dylunio taflen ddwyieithog mewn print ac yn ddigidol
Cyflwyno cynigion:
Dylech fynegi diddordeb drwy gynnwys cais amlinellol ac enghreifftiau o ddylunio a’u hanfon at Nicola.Morgan@wai.org.uk erbyn 29 Ionawr 2018.
Caiff pob ymateb i geisiadau am eglurhad eu cyhoeddi ar borthol GwerthwchiGymru.
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=75974 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|