Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Dylunio Sefydliadol

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 09 Mehefin 2026
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 09 Mehefin 2026
  • Fersiwn: N/A
  •  

  • Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch.

  •  

Eicon Gwybodaeth

Nid yw'r prynwr yn defnyddio'r wefan hon i weinyddu'r hysbysiad.

I gofnodi eich diddordeb neu gael gwybodaeth neu ddogfennau ychwanegol, darllenwch y cyfarwyddiadau yn Nhestun Llawn yr Hysbysiad. (NODER: Nid oes angen ymateb i Hysbysiadau Dyfarnu Contractau a Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw fel arfer)

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-166224
Cyhoeddwyd gan:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
ID Awudurdod:
AA84258
Dyddiad cyhoeddi:
09 Mehefin 2026
Dyddiad Cau:
14 Gorffennaf 2026
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Nac Ydi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
Nac Ydi

Crynodeb

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gwahodd dyfynbrisiau ar gyfer gwasanaethau proffesiynol i gynnal adolygiad o strwythur sefydliadol y Cyngor, a gwneud cynigion ar gyfer gwelliannau neu opsiynau amgen yn ôl yr angen. Crynodeb Mae rôl a chylch gwaith y Cyngor wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae ei strwythur sefydliadol wedi, i raddau helaeth, aros yr un fath. Mae'r Cyngor bellach yn ceisio penodi gwasanaeth proffesiynol i gynnal adolygiad ac asesiad annibynnol o'r strwythur hwn i sicrhau ei fod yn addas at y diben, yn effeithlon, ac yn gymesur â'i gyfrifoldebau a'i gapasiti cynyddol. Fel amlinelliad, rydym yn disgwyl i'r gwaith hwn gynnwys y canlynol: 1) Darllen ac adolygu'r dogfennau allweddol canlynol, er mwyn cael dealltwriaeth gyffredinol o'r strwythurau cyfredol: • Rheolau Sefydlog; • Rheolau Ariannol; • Cynllun Dirprwyo; • Cylch gorchwyl pwyllgorau; • Sampl o gofnodion cyfarfodydd diweddar; • Strwythur a rolau staff. (N.B. Dim ond mewn perthynas ag integreiddio o fewn strwythurau sefydliadol y dylid asesu rolau staff.) 2) Cynnal cyfweliadau gyda'r unigolion allweddol canlynol, er mwyn datblygu dealltwriaeth o ddeinameg fewnol, cael adborth a barn ar effeithiolrwydd y system bresennol, a chasglu gweledigaethau/nodau ar gyfer y dyfodol: • Clerc y Dref (a/neu swyddogion eraill, os ystyrir bod angen); • Sampl o gynghorwyr. 3) Darparu adroddiad ysgrifenedig i grynhoi canfyddiadau o'r uchod, yn enwedig: • Crynodeb gweithredol o'r strwythur presennol (i ddangos dealltwriaeth ohono); • Yr adborth a'r canfyddiadau mewnol o strwythur y sefydliad, a'i effeithiolrwydd; • Y weledigaeth a'r nodau mewnol ar gyfer dyfodol y Cyngor; • Asesiad annibynnol o effeithiolrwydd strwythurau llywodraethu a sefydliadol presennol; • Yr ardaloedd sydd angen sylw, o’r uchod; • Unrhyw ganfyddiadau allweddol eraill. 4) Darparu cynigion ysgrifenedig ar gyfer gwella/newid/ailwampio (fel y bo'n briodol i fynd i'r afael â'r canfyddiadau uchod) strwythurau sefydliadol, er enghraifft: • Ailwampio strwythurau cyfarfodydd / pwyllgorau; • Diwygiadau i gyfrifoldebau pwyllgorau presennol; • Gwelliannau i drefniadau dirprwyo; • Newidiadau i integreiddio staff o fewn strwythurau llywodraethu.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Neuadd Gwenfrewi, Queen's Road,

Aberystwyth

SY23 2HS

UK

Will Rowlands

+44 01970624761


http://www.aberystwyth.gov.uk
https://aberystwyth.gov.uk/wp-content/uploads/2026/06/RFQ-Organisation-Design-CYM.pdf

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth


Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Neuadd Gwenfrewi, Queen's Road,

Aberystwyth

SY23 2HS

UK


+44 01970624761


http://www.aberystwyth.gov.uk

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:


Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Neuadd Gwenfrewi, Queen's Road,

Aberystwyth

SY23 2HS

UK


+44 01970624761


http://www.aberystwyth.gov.uk

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Dylunio Sefydliadol

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gwahodd dyfynbrisiau ar gyfer gwasanaethau proffesiynol i gynnal adolygiad o strwythur sefydliadol y Cyngor, a gwneud cynigion ar gyfer gwelliannau neu opsiynau amgen yn ôl yr angen.

Crynodeb

Mae rôl a chylch gwaith y Cyngor wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae ei strwythur sefydliadol wedi, i raddau helaeth, aros yr un fath. Mae'r Cyngor bellach yn ceisio penodi gwasanaeth proffesiynol i gynnal adolygiad ac asesiad annibynnol o'r strwythur hwn i sicrhau ei fod yn addas at y diben, yn effeithlon, ac yn gymesur â'i gyfrifoldebau a'i gapasiti cynyddol.

Fel amlinelliad, rydym yn disgwyl i'r gwaith hwn gynnwys y canlynol:

1) Darllen ac adolygu'r dogfennau allweddol canlynol, er mwyn cael dealltwriaeth gyffredinol o'r strwythurau cyfredol:

• Rheolau Sefydlog;

• Rheolau Ariannol;

• Cynllun Dirprwyo;

• Cylch gorchwyl pwyllgorau;

• Sampl o gofnodion cyfarfodydd diweddar;

• Strwythur a rolau staff.

(N.B. Dim ond mewn perthynas ag integreiddio o fewn strwythurau sefydliadol y dylid asesu rolau staff.)

2) Cynnal cyfweliadau gyda'r unigolion allweddol canlynol, er mwyn datblygu dealltwriaeth o ddeinameg fewnol, cael adborth a barn ar effeithiolrwydd y system bresennol, a chasglu gweledigaethau/nodau ar gyfer y dyfodol:

• Clerc y Dref (a/neu swyddogion eraill, os ystyrir bod angen);

• Sampl o gynghorwyr.

3) Darparu adroddiad ysgrifenedig i grynhoi canfyddiadau o'r uchod, yn enwedig:

• Crynodeb gweithredol o'r strwythur presennol (i ddangos dealltwriaeth ohono);

• Yr adborth a'r canfyddiadau mewnol o strwythur y sefydliad, a'i effeithiolrwydd;

• Y weledigaeth a'r nodau mewnol ar gyfer dyfodol y Cyngor;

• Asesiad annibynnol o effeithiolrwydd strwythurau llywodraethu a sefydliadol presennol;

• Yr ardaloedd sydd angen sylw, o’r uchod;

• Unrhyw ganfyddiadau allweddol eraill.

4) Darparu cynigion ysgrifenedig ar gyfer gwella/newid/ailwampio (fel y bo'n briodol i fynd i'r afael â'r canfyddiadau uchod) strwythurau sefydliadol, er enghraifft:

• Ailwampio strwythurau cyfarfodydd / pwyllgorau;

• Diwygiadau i gyfrifoldebau pwyllgorau presennol;

• Gwelliannau i drefniadau dirprwyo;

• Newidiadau i integreiddio staff o fewn strwythurau llywodraethu.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

73220000 Gwasanaethau ymgynghori ar ddatblygu
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

PCyfranogiad a chyflwyniad

Mae'r Cyngor yn gwahodd cynigion gan unrhyw wasanaethau proffesiynol sy'n ystyried eu bod yn gallu ymgymryd â'r gwaith. Dylai sefydliadau ddangos, yn eu cyflwyniad, eu bod yn gyfarwydd â'r sector cynghorau tref/cymuned yng Nghymru, a dealltwriaeth o lywodraeth leol yng Nghymru yn gyffredinol.

Rhaid i unrhyw berson neu sefydliad sy'n dyfynnu sydd, hyd y gwyddant, â chysylltiad agos neu berthynas ag unrhyw Aelod neu Swyddog o'r Cyngor ddatgelu hynny, ynghyd â manylion perthnasol, fel rhan o'u cyflwyniad.

Bydd canfasio unrhyw Aelod neu Swyddog o'r Cyngor, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar gyfer y gwaith, yn arwain at anghymhwyso.

Ni fydd rhwymedigaeth ar y Cyngor i dderbyn y dyfynbris isaf, nac unrhyw ddyfynbris o gwbl..

Dylid cyflwyno cynigion a dyfynbrisiau i Mr W L Rowlands, Clerc y Dref & SAC;

Drwy e-bost at: will.rowlands@aberystwyth.gov.uk

Drwy post at: Tŷ’r Offeiriad

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr

Aberystwyth

SY23 2HS

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y Clerc ar 01970 624 761.

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     14 - 07 - 2026  Amser   17:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   27 - 07 - 2026

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN   CY  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

(WA Ref:166227)

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  09 - 06 - 2026

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
73220000 Gwasanaethau ymgynghori ar ddatblygu Gwasanaethau ymgynghori ar ymchwil a datblygu

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
N/a
Cyswllt gweinyddol:
N/a
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.