Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen
Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, yn enwedig ym maes y celfyddydau perfformio, digwyddiadau a lletygarwch, mae'n hanfodol bod darpar gyflenwyr mewn iechyd ariannol a gweithredol cyffredinol da. I'r perwyl hwn, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr gyflwyno eu datganiadau ariannol diweddaraf a'u cyfrifon archwiliedig, ynghyd â'u sefyllfaoedd a'u rhagolygon llif arian parod wedi'u diweddaru ar ddechrau'r broses hon.
Cadwn yr hawl i beidio â chynnwys cyflenwyr y mae gennym sail resymol dros gredu y byddant yn peri risg i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Gofynnwn i chi gynnwys y canlynol gyda'ch ceisiadau:
Sefyllfa Ariannol
● Y cyfrifon archwiliedig ar gyfer y cyfnod ffeilio diwethaf. Derbynnir y cyfrifon diweddaraf nas archwiliwyd ar gyfer y cyfnod ariannol diweddaraf os nad oes cyfrifon archwiliedig ar gael eto.
● Cyfrifon Rheoli Presennol, gan gynnwys y canlynol:
○ Y Sefyllfa a Rhagolygon o ran Llif Arian Parod
○ Rhagolygon o ran twf, cadw (neu golli) cleientiaid a'r sail dros y rhain
○ Credydwyr a rhwymedigaethau sylweddol presennol, ynghyd â phryd y mae'r rhain i daladwy / trafodaethau ar ailstrwythuro'r rhain
● Strategaethau a pholisïau i gadw staff sy'n meddu ar sgiliau craidd i gefnogi eich cleientiaid, a pharhau i ddefnyddio a datblygu eich cynhyrchion
● Cadarnhewch fod eich grŵp a'ch uned fusnes (os yw'n berthnasol) yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol (mae hyn yn wahanol i dalu'r Cyflog Byw Cenedlaethol)
Cydymffurfiaeth a Chyfrifoldeb Cymdeithasol
Tystiolaeth, ardystiadau neu ddogfennau eraill yn ymwneud â
● Diogelwch data personol, lletya a gwybodaeth berthnasol arall
● Cydymffurfiaeth, archwiliadau ac ardystiadau'r Diwydiant Cardiau Talu / Safon Diogelu Data Ceisio am Daliad
● Ardystiad prawf hacio neu ardystiad trydydd parti arall o'ch cais a diogelwch TG eich cwmni.
● Rhowch fanylion ynghylch ble y caiff ein data ni (a data ein cwsmeriaid) eu storio'n ddaearyddol (os yw'n berthnasol) ynghyd â disgrifiad o'r cyfleuster lletya a'i lefelau cydymffurfio.
Dylai'r sawl sy'n tendro hefyd gyflwyno eu telerau ac amodau safonol, a hyd disgwyliedig cytundebau gyda'u hymatebion.
Rhaid i'r telerau fod yn gymesur ac yn rhesymol, o ystyried cwmpas y cais hwn am gynnig, a gallant gael eu cyd-drafod â'r sefydliad. Dylech ddarparu costau yn seiliedig ar gyfradd flynyddol a dangos unrhyw opsiynau amgen y byddech chi'n eu hystyried/cynghori.
Cadwn yr hawl i ofyn am gael gwneud newidiadau rhesymol i delerau ac amodau tendrau. Os na ellir cytuno ar newidiadau ymysg ein gilydd a'r sawl sy'n tendro, gallai'r cyflenwr gael ei eithrio rhag cyfranogi at y broses ymhellach.
DARLLENWCH Y DDOGFEN BRIFFIO SYDD WEDI’I HATODI.
|