Crynodeb
- OCID:
- ocds-kuma6s-121492
- Cyhoeddwyd gan:
- Isle of Anglesey County Council
- ID Awudurdod:
- AA0369
- Dyddiad cyhoeddi:
- 20 Mai 2022
- Dyddiad Cau:
- 20 Mehefin 2022
- Math o hysbysiad:
- Hysbysiad o Gontract
- Mae ganddo ddogfennau:
- Yndi
- Wedi SPD:
- Nac Ydi
- Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
- Nac Ydi
Crynodeb
Mae'r Cyngor yn dymuno penodi contractwr â chymwysterau a phrofiad addas i addasu annedd bresennol yn adeilad gwasanaeth cymorth dydd arbenigol ar gyfer plant anabl.
Byddwn yn asesu'r gofyniad hwn drwy ofyn am brofiad blaenorol o gyflawni contractau tebyg. Darparwch bortffolio o waith blaenorol. Yn ystod y broses sgorio tendrau, dim ond comisiynau a gwblhawyd yng Nghymru fydd yn cael eu hystyried.
Gellir cyrchu dogfennau tendro trwy'r tab 'dogfennau' ar GwerthwchiGymru
Rhaid i gwestiynau a cheisiadau am eglurhad gael eu gwneud drwy swyddogaeth Holi ac Ateb GwerthwchiGymru.
Rhaid cyflwyno tendrau drwy'r cyfleuster blwch post GwerthwchiGymru erbyn 12:00pm ar 20/06/2022.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i uwchlwytho dogfennau ac i anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
Blwch Post
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau.
Cyflwyno eich ymateb i'r tendr yn electronig mewn amgylchedd diogel.
Er mwyn creu ymateb electronig, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu at fy rhestr Diddordeb" ar frig y dudalen.
Am ragor o wybodaeth am y Blwch Postio, darllenwch y canllaw i ddefnyddwyr: