Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ar ran Sector Cyhoeddus Cymru, am sefydlu Cytundeb Fframwaith ar gyfer cyflenwi Gwasanaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Diben yr Hysbysiad Tybiannol hwn yw rhoi i’r farchnad ddigon o rybudd ynghylch y broses gaffael a manylion penodol ynghylch y meini prawf ar gyfer gwobrwyo’r Cytundeb. Gallai’r wybodaeth isod newid.
Rhennir y Fframwaith yn nifer o Lotiau. Mae’n debygol y byddant yn cynnwys, ond heb fod wedi’u cyfyngu, i’r Lotiau a ganlyn:-
Lot 1 – Cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg
Lot 2 – Cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
Lot 3 – Cyfieithu ar y pryd o’r Saesneg i’r Gymraeg
Lot 4 – Cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg
Rhennir Lot 4 ymhellach ar sail ardaloedd rhanbarthol nad ydynt hyd yma wedi’u pennu yn derfynol.
Un o feini prawf y Fframwaith fydd y gofyniad i gyflenwr fod yn aelod achrededig o gymdeithas neu gorff cyfieithu/cyfieithu ar y pryd proffesiynol. Rhaid i’r corff cyfieithu/cyfieithu ar y pryd fod yn un lle mae aelodaeth gyflawn yn dibynnu ar lwyddo mewn arholiad neu asesiad. Rhaid i’r achrediad proffesiynol fod yn berthnasol i’r Lot. Ymhlith yr enghreifftiau o gyrff neu gymdeithasau cyfieithu/cyfieithu ar y pryd proffesiynol yr ystyrir eu bod yn dderbyniol mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a The Institute of Translation and Interpreting, ond nid dyna’r unig rai.
Cyhoeddwyd yr hysbysiad tybiannol hwn yn rhannol er mwyn caniatáu i gyflenwyr posibl ystyried aelodaeth broffesiynol berthnasol cyn dechrau ar y broses gaffael.
Darperir manylion holl ofynion y broses yn Hysbysiad Contract Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a gyhoeddir ar wefan GwerthwchiGymru.
Disgwylir cyhoeddi’r Hysbysiad Contract fis Mai 2018, ond gallai’r dyddiad hwnnw newid.
Gall cyflenwyr gofrestru eu diddordeb yn yr hysbysiad hwn ar GwerthwchiGymru. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth maes o law ar gynnal digwyddiadau ar gyfer cyflenwyr.
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=72537 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. |