Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ystyried comisiynu cyflenwr profiadol i'n cynorthwyo i ddatblygu amlinelliad o fframwaith datblygiad proffesiynol ar gyfer rolau data gofal cymdeithasol a dadansoddi yng Nghymru.
Dylai'r fframwaith gynnwys darlun o'r gofynion sgiliau ar gyfer llythrennedd data sylfaenol, rhai y dylai'r holl weithlu gofal cymdeithasol eu meddu, hyd at gasglu a defnyddio data mewn ymchwil, a dadansoddi cymhleth sy'n gofyn am sgiliau lefel uchel mewn gwyddoniaeth data, gwyddoniaeth gyfrifiadurol a dadansoddi ystadegol. Rhaid i'r partner a ddewiswn sicrhau bod y fframwaith yn cael ei lywio gan anghenion gweithredol a strategol y sector gofal cymdeithasol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Dylai'r fframwaith hefyd gynnig llwybr ar gyfer dilyniant i ddadansoddwyr ddatblygu eu sgiliau dros amser trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Byddwn hefyd angen trosolwg o'r hyn fyddai ei angen i weithredu'r fframwaith o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd pellach i ddatblygu drwy:
- ymchwilio i sut y gallem drosglwyddo dysgu o awdurdodau lleol sydd wedi buddsoddi a datblygu eu galluoedd dadansoddol
- harneisio'r dysgu a'r adnoddau o brosiectau sy'n digwydd ochr yn ochr â datblygu sgiliau digidol a data, er enghraifft, trwy Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru
- ymuno â, neu greu, prosiectau arloesol i ddatblygu galluoedd a chapasiti dadansoddol yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd, ac mewn sectorau eraill, gan gynnwys iechyd
- ymchwilio i fecanweithiau newydd i ddarparu gwybodaeth a chyfleoedd dysgu i fyfyrwyr, y rhai sydd eisoes yn y gweithle, neu i'r rhai sy'n cychwyn ar eu gyrfaoedd, h.y. prentisiaethau, lleoliadau gwaith, mentora ac ati.
- gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd, y llywodraeth a'r byd academaidd i sicrhau bod y rhai sy'n astudio ar lefel addysg bellach/uwch yn gweld iechyd a gofal fel opsiynau gyrfa ymarferol pan fyddant yn graddio.
- creu fframwaith safonol o sgiliau data a dadansoddeg sy'n haws eu trosglwyddo ar draws ffiniau sefydliadol a sicrhau bod gan sefydliadau gyfle i dynnu ar dempledi sgiliau safonedig i recriwtio a datblygu eu staff.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=115281 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|