Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r gyllideb sydd ar gael ar gyfer hyn dros 3 blynedd oddeutu £132,000 sy’n cyfateb i £44,000 y flwyddyn.
Amcanion y Gwasanaeth - Nodau'r gwasanaeth yw:
I ddarparu cyfleusterau dydd sy'n gwerthfawrogi pobl gydag anableddau dysgu ac sy’n parchu eu hawliau i brofi gwaith a hyfforddiant mewn awyrgylch gefnogol.
I ddarparu profiad gwaith a hyfforddiant ar sail anghenion unigol ac i ddatblygu potensial yr unigolyn yn llawn.
I ddarparu cyfleodd galwedigaethol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
I gynnig cyfleon fydd yn meithrin sgiliau byw yn annibynnol.
Darparu cyfleon yn seiliedig ar ganlyniad a’r gallu i symud defnyddwyr ymlaen i brosiectau eraill / byw’n annibynnol.
Mae angen darparu gwasanaethau i 9 unigolyn dros wythnos – sy’n golygu gwerth 20 diwrnod o leoliadau yr wythnos.
Dylid darparu’r gwasanaeth hwn 48 wythnos y flwyddyn.
Manylion y cyflwyniad
Dylai’r cyflwyniad gynnwys :
• Cyfrifiad cyllidebol
• Manylion am adeiladau / eiddo presennol neu fwriadau i brynu eiddo addas.
• Manylion ynglyn ag unrhyw elfennau o’r contract fydd yn cael eu his-gontractio (os unrhyw).
• Manylion ar sut y mae’r darparwr yn bwriadu cyfarfod â’r Nodau Gwasanaeth. Byddai’n ddefnyddiol pe bai’r wybodaeth yn cynnwys cynllun prosiect ddrafft.
• Darlun bras o’r sefydliad, yn cynnwys y strwythur sefydliadol a threfniadau rheoli.
• Manylion / tystiolaeth o brofiad yn y gorffennol neu hanes o ddarparu gwasanaethau tebyg / union yr un fath.
• Manylion / tystiolaeth o brofiad yn y gorffennol neu hanes o weithio amlasiantaeth, rhyngasiantaeth a phartneriaeth.
• Manylion / tystiolaeth o brofiad yn y gorffennol neu hanes gyda thystiolaeth o weithio o fewn cymunedau gwledig ddwyieithog a gallu i ddarparu gwasanaeth ac unrhyw ddogfennau ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg.
Dyddiad Cau i Mynegiadau o ddiddordeb yw - 16.00 19 Gorffennaf 2013
(WA Ref:150)
|