Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Pwrpas y comisiwn hwn yw penodi crewyr cynnwys creadigol ac/neu cwmni sy’n arbenigo yn y maes marchnata digidol a all ein cefnogi i hyrwyddo cyflawniadau’r STyB a negeseuon diogelwch yn ystod 2022 /2023. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus greu, rheoli a monitro ymgyrch hyrwyddo digidol.
Yn ogystal, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gynhyrchu cynnwys creadigol ac amrywiol a llwytho’r cynnwys ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Llechi Cymru megis Facebook, Twitter ac Instagram, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae prif dasgau ac allbynnau’r comisiwn fel a ganlyn:
• Creu ymgyrchoedd hyrwyddo digidol organig effeithiol ac unigryw fydd yn denu sylw a chodi ymwybyddiaeth o’r negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol Llechi Cymru megis Facebook, Twitter ac Instagram;
• Creu negeseuon positif ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddatganiadau i’r wasg o gyflawniad y Safle Treftadaeth y Byd trwy brosiect LleCHI (nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Arloesi Gwynedd Wledig a Partneriaeth Eryri) a’r gwaith sydd ar y gweill o ran Cadwraeth, digwyddiadau, prosiectau cymunedol, nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, gosod gwaith dehongli ayyb.
• Defnyddio #llechicymru #walesslate ar gyfer gwaith uniongyrchol Llechi Cymru neu #mwynallechi #morethanslate ar gyfer unrhywbeth sy’n trafod y diwydiant mewn cyd-destun gwahanol anuniongyrchol i’r dynodiad
• Creu asedau digidol gwreiddiol ac unigryw gan ddefnyddio ffotograffau, fideo, Gifs, graffeg a thestun. Mae asedau ar gael megis ffotograffau a fideos, ond bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddod o hyd i ffotograffau a fideos pellach o bosib.
• Creu o leiaf dwy post wreiddiol yr wythnos gyda'r nod o gynhyrchu lefelau uchel o ymgysylltu a chyrhaeddiad, a dylai hefyd gynnwys o leiaf.;
o un post y mis ar gyfer ‘Pobl y Llechi’,
o un post y mis am ymweld a parchu’r tirwedd yn ddiogel
o un ffaith a llun y mis am un o chwech o ardaloedd y STyB
• Defnyddio themâu a negeseuon allweddol Llechi Cymru o’r Strategaeth Ddehongli a Canllaw Marchnata i greu posts
• Defnyddio gwybodaeth o adroddiad Mwynhad Diogel y Tirwedd Llechi gan Eryri Bywiol i greu negeseuon diogelwch effeithiol i’w rhannu yn wythnosol (amgaeedig).
• Hyrwyddo negeseuon o ddogfen Cymunedau Llechi Gwynedd: Gofal a Chadwraeth a digwyddiadau cymunedol fydd yn cael eu trefnu i gyd-fynd gyda lansiad y ddogfen
• Rhannu cynnwys o gyfrifon eraill sy'n perthyn neu’n cefnogi’r STyB e.e., Amgueddfa Lechi Cymru, Rheilffordd Talyllyn, Amgueddfa’r Môr Porthmadog ayyb
• rhoi cyhoeddusrwydd i unrhyw gynnwys/gwybodaeth berthnasol arall a fydd ar gyfryngau cymdeithasol neu a dderbynnir.
• Cynorthwyo Tîm Llechi Cymru i fonitro'r cyfrifon, ymateb i ymholiadau/sylwadau, cuddio unrhyw sylwadau amhriodol, annerbyniol a sarhaus;
• Rhoi sylw i ddyddiadau penodol yn y Calendr UNESCO / Safle Treftadaeth y Byd, e.e., Blwyddyn ers Dynodiad Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd 28 Gorffennaf 2022, 50 mlynedd Confensiwn Treftadaeth y Byd 26 Tachwedd 2022, Diwrnod Rhyngwladol Treftadaeth y Byd 18 Ebrill 2023 ayyb
Bydd angen sicrhau:
bod y cynnwys yn ddwyieithog;
bod hawliau yn eu lle i ddefnyddio unrhyw ddelweddau;
bod mynediad cyhoeddus ar gael i unrhyw safleoedd chwarelyddol cyn rhannu gwybodaeth
bod y cynnwys yn cyfateb i'r hyn y cytunwyd arno yn y cyfarfodydd er mwyn sicrhau cysondeb â'r negeseuon;
bod cyfrifon perthnasol eraill (sy'n rhoi ystyriaeth ddaearyddol i Wynedd gyfan) yn cael eu tagio, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Eryri Mynyddoedd a Môr, Parc Cenedlaethol Eryri er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach, ac i uchafu ymgysylltiad a chyrhaeddiad negeseuon;
bod unrhyw gyhoeddiad yn unol â chanllawiau Covid-19 (gan gofio y gall canllawiau a chyfyngiadau amrywio yn ystod cyfnod y cytundeb);
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyrraedd ac adrodd ar yr allbynnau canlynol yn ystod y cyfnod comisiwn:
• Creu o leiaf dwy post wreiddiol yr wythnos gyda'r nod o gynhyrchu lefelau uchel o ymgysylltu a chyrhaeddiad;
• Rhannu o leiaf dau post gan gyfrifon eraill sy'n cefnogi’r STyB yr wythnos
• Monitro a chofnodi nifer yr ymgysylltu gyda’r cynnwys ar wahanol gyfrifon gyda'r nod o gynnal neu gynyddu'r niferoedd yn ystod y cyfnod comisiwn;
• Monitro a chofnodi nifer cyrhaeddiad y cynnwys ar wahanol gyfrifon gyda’r nod o gynnal neu cynyddu niferoedd yn ystod y cyfnod comisiwn.
Gan fod y comisiwn ar gyfer ymgyrchoedd hyrwyddo digidol organig, nid oes angen cynnwys manylion am hybu costau. Mae posib y bydd cyllid ychwanegol ar gael er mwyn gwneud hyn.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus reoli a chynhyrchu deunyddiau ar y llwyfannau digidol canlynol:
Facebook https://www.facebook.com/LlechiCymruWalesSlate
Twitter https://twitter.com/LlechiCymru
Instagram https://www.instagram.com/llechicymruwalesslate/
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=122426 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|