Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Procurement Food Hubs Gwerthuso

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 05 Mai 2022
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 05 Mai 2022

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-121027
Cyhoeddwyd gan:
Social Farms and Gardens
ID Awudurdod:
AA78256
Dyddiad cyhoeddi:
05 Mai 2022
Dyddiad Cau:
23 Mai 2022
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Yndi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
Nac Ydi

Crynodeb

Trosolwg o’r Prosiect Diben y prosiect peilot hwn yw creu sylfaen dystiolaeth i brofi y GALL y sector cyhoeddus gaffael mewn ffordd effeithlon gan gynhyrchwyr lleol trwy ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd naturiol a ffyniant lleol. Bydd yn peilota defnyddio Hybiau Bwyd fel cyfrwng i gynhyrchwyr lleol ddarparu maint y cynnyrch a’r dechnoleg sydd eu hangen i gyflenwi’r sector cyhoeddus mewn ffordd effeithiol. Yn ystod 2020, mae Covid-19 a thrafodaethau ar destun Brexit wedi amlygu llawer o’r problemau sy’n wynebu Cymru o ran cynhyrchu bwyd ei hun, yn enwedig bwyd sy’n gwella iechyd y genedl, sy’n lleihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, ac sy’n cyfoethogi bioamrywiaeth. Byddwn yn cefnogi dau Hwb Bwyd (ym Mhowys a Sir Gâr) i ehangu eu cyrhaeddiad a symud i faes caffael, ac ar yr un pryd gwireddu gweledigaeth Hybiau Bwyd o ran model cysylltiedig, lleol sy’n gadarn o safbwynt amgylcheddol. Mae caffael gwasanaethau yn y DU yn dir peryglus o ran deddfwriaeth, biwrocratiaeth a gwaith papur, a bydd y Bartneriaeth yn cynnig arbenigedd a hyfforddiant i sicrhau mynediad ar gyfer Hybiau a thyfwyr. Byddwn yn datblygu ac yn addasu technoleg gyfredol i ddiwallu anghenion cwsmeriaid trwy ddefnyddio systemau caffael, a darparu data ychwanegol i adeiladu’r achos dros y model hwn. Mae rhanbarthau gwledig Powys a Sir Gâr eisoes yn ystyried dulliau gwaith a chydweithio arloesol i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol. Byddwn yn rhoi cefnogaeth iddynt trwy fuddsoddiad i arallgyfeirio a gweithio tuag at y buddion economaidd ac amgylcheddol arfaethedig sy’n rhan o Fil Sector Amaethyddol (Cymru) sydd ar fin ei gyhoeddi. Caiff yr astudiaethau achos a’r data a gynhyrchir eu dosbarthu trwy Leoliadau Bwyd Cynaliadwy a rhwydweithiau eraill i annog mwy o brynwyr mawr, tyfwyr a chymunedau gwledig i gymryd rhan. Y Gofynion Gwerthuso Bydd y broses gwerthuso’n canolbwyntio ar ddysgu o’r cynllun peilot hwn er mwyn dylanwadu ar weithgaredd a pholisi’r dyfodol i annog cwsmeriaid sy’n caffael bwyd ar gyfer y sector cyhoeddus i flaenoriaethu cadwyni cyflenwi byr ( a thyfu atgynhyrchiol) yng Nghymru. Bydd Hybiau’n defnyddio technoleg y Rhwydwaith Bwyd Agored ac adnoddau eraill i gasglu data trwy gydol y prosiect i ddangos buddion ehangach y model hwn. Bydd gofyn i adroddiadau gwerthuso gofnodi’r cyfleoedd, yr heriau, llwyddiannau a phwyntiau dysgu o safbwynt: - Tyfwyr/cynhyrchwyr - Hybiau Bwyd (cydgasglu cynnyrch a gwerthu i gyfanwerthwyr/yn uniongyrchol i gwsmeriaid) - Cyflenwyr cyfredol (cyfanwerth) - Caffaelwyr Y bwriad yw y bydd eraill mewn mannau eraill yng Nghymru, ynghyd ag unigolion sy’n llunio polisi sy’n cael dylanwad ar reolau caffael yn y sector cyhoeddus yn defnyddio’r ddogfen derfynol fel canllaw. Mae’n rhaid iddi fod yn ddogfen weithredol gydag argymhellion ac astudiaethau achos i ddod â’r model yn fyw, ac mae’n rhaid ystyried y gall, ac y bydd y model hwn (sy’n cael ei ddiwygio ar sail profiad y cynllun peilot), yn cael ei weithredu mewn mannau eraill yng Nghymru. Gofynion: • Bydd gwerthuso’n cael ei ymwreiddio i weithgareddau’r prosiect o’r cychwyn cyntaf (ar ôl penodi gwerthuswyr). Bydd gwerthuswyr yn gweithio’n agos gydag arweinydd a phartneriaid cyflenwi’r prosiect a byddant yn cynnig cyngor ac arweiniad i sicrhau fod y broses o gasglu data’n syml ac yn gyson. • Bydd y broses o gasglu data’n cynnwys data ansoddol a meintiol. • Bydd gwerthuswyr yn cymryd rhan mewn 8 o gyfarfodydd y Grŵp Llywio i sicrhau y caiff dysgu ei ymwreiddio i gyd-destun ehangach caffael cadwyni cyflenwi byr. • Bydd gwerthuswyr yn ymweld â safleoedd y ddau Hwb ym Mhowys ac yn Sir Gâr ar gyfer trafodaethau wyneb yn wyneb gyda phartneriaid o leiaf pedair gwaith yn ystod y prosiect. • Bydd gwerthuswyr yn cwrdd ag amrediad o gwsmeriaid terfynol a chynhyrchwyr er mwyn deall eu profiad ac effaith y cynllun peilot hwn. • Bydd gwerthuswyr yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r diweddaraf ym maes deddfwriaeth, polisi a mentrau eraill ym maes caffael b

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

Top Floor, 9 Broad Street,

Newtown

SY16 2LU

UK

Alison Sheffield

+44 7752542853

alison@farmgarden.org.uk

https://www.farmgarden.org.uk

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth


Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

Top Floor, 9 Broad Street,

Newtown

SY16 2LU

UK

Alison Sheffield

+44 7752542853

alison@farmgarden.org.uk

https://www.farmgarden.org.uk

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:


Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

Top Floor, 9 Broad Street,

Newtown

SY16 2LU

UK

Alison Sheffield

+44 7752542853

alison@farmgarden.org.uk

https://www.farmgarden.org.uk

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Procurement Food Hubs Gwerthuso

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

Trosolwg o’r Prosiect

Diben y prosiect peilot hwn yw creu sylfaen dystiolaeth i brofi y GALL y sector cyhoeddus gaffael mewn ffordd effeithlon gan gynhyrchwyr lleol trwy ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd naturiol a ffyniant lleol. Bydd yn peilota defnyddio Hybiau Bwyd fel cyfrwng i gynhyrchwyr lleol ddarparu maint y cynnyrch a’r dechnoleg sydd eu hangen i gyflenwi’r sector cyhoeddus mewn ffordd effeithiol.

Yn ystod 2020, mae Covid-19 a thrafodaethau ar destun Brexit wedi amlygu llawer o’r problemau sy’n wynebu Cymru o ran cynhyrchu bwyd ei hun, yn enwedig bwyd sy’n gwella iechyd y genedl, sy’n lleihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, ac sy’n cyfoethogi bioamrywiaeth.

Byddwn yn cefnogi dau Hwb Bwyd (ym Mhowys a Sir Gâr) i ehangu eu cyrhaeddiad a symud i faes caffael, ac ar yr un pryd gwireddu gweledigaeth Hybiau Bwyd o ran model cysylltiedig, lleol sy’n gadarn o safbwynt amgylcheddol.

Mae caffael gwasanaethau yn y DU yn dir peryglus o ran deddfwriaeth, biwrocratiaeth a gwaith papur, a bydd y Bartneriaeth yn cynnig arbenigedd a hyfforddiant i sicrhau mynediad ar gyfer Hybiau a thyfwyr.

Byddwn yn datblygu ac yn addasu technoleg gyfredol i ddiwallu anghenion cwsmeriaid trwy ddefnyddio systemau caffael, a darparu data ychwanegol i adeiladu’r achos dros y model hwn.

Mae rhanbarthau gwledig Powys a Sir Gâr eisoes yn ystyried dulliau gwaith a chydweithio arloesol i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol. Byddwn yn rhoi cefnogaeth iddynt trwy fuddsoddiad i arallgyfeirio a gweithio tuag at y buddion economaidd ac amgylcheddol arfaethedig sy’n rhan o Fil Sector Amaethyddol (Cymru) sydd ar fin ei gyhoeddi.

Caiff yr astudiaethau achos a’r data a gynhyrchir eu dosbarthu trwy Leoliadau Bwyd Cynaliadwy a rhwydweithiau eraill i annog mwy o brynwyr mawr, tyfwyr a chymunedau gwledig i gymryd rhan.

Y Gofynion Gwerthuso

Bydd y broses gwerthuso’n canolbwyntio ar ddysgu o’r cynllun peilot hwn er mwyn dylanwadu ar weithgaredd a pholisi’r dyfodol i annog cwsmeriaid sy’n caffael bwyd ar gyfer y sector cyhoeddus i flaenoriaethu cadwyni cyflenwi byr ( a thyfu atgynhyrchiol) yng Nghymru. Bydd Hybiau’n defnyddio technoleg y Rhwydwaith Bwyd Agored ac adnoddau eraill i gasglu data trwy gydol y prosiect i ddangos buddion ehangach y model hwn.

Bydd gofyn i adroddiadau gwerthuso gofnodi’r cyfleoedd, yr heriau, llwyddiannau a phwyntiau dysgu o safbwynt:

- Tyfwyr/cynhyrchwyr

- Hybiau Bwyd (cydgasglu cynnyrch a gwerthu i gyfanwerthwyr/yn uniongyrchol i gwsmeriaid)

- Cyflenwyr cyfredol (cyfanwerth)

- Caffaelwyr

Y bwriad yw y bydd eraill mewn mannau eraill yng Nghymru, ynghyd ag unigolion sy’n llunio polisi sy’n cael dylanwad ar reolau caffael yn y sector cyhoeddus yn defnyddio’r ddogfen derfynol fel canllaw. Mae’n rhaid iddi fod yn ddogfen weithredol gydag argymhellion ac astudiaethau achos i ddod â’r model yn fyw, ac mae’n rhaid ystyried y gall, ac y bydd y model hwn (sy’n cael ei ddiwygio ar sail profiad y cynllun peilot), yn cael ei weithredu mewn mannau eraill yng Nghymru.

Gofynion:

• Bydd gwerthuso’n cael ei ymwreiddio i weithgareddau’r prosiect o’r cychwyn cyntaf (ar ôl penodi gwerthuswyr). Bydd gwerthuswyr yn gweithio’n agos gydag arweinydd a phartneriaid cyflenwi’r prosiect a byddant yn cynnig cyngor ac arweiniad i sicrhau fod y broses o gasglu data’n syml ac yn gyson.

• Bydd y broses o gasglu data’n cynnwys data ansoddol a meintiol.

• Bydd gwerthuswyr yn cymryd rhan mewn 8 o gyfarfodydd y Grŵp Llywio i sicrhau y caiff dysgu ei ymwreiddio i gyd-destun ehangach caffael cadwyni cyflenwi byr.

• Bydd gwerthuswyr yn ymweld â safleoedd y ddau Hwb ym Mhowys ac yn Sir Gâr ar gyfer trafodaethau wyneb yn wyneb gyda phartneriaid o leiaf pedair gwaith yn ystod y prosiect.

• Bydd gwerthuswyr yn cwrdd ag amrediad o gwsmeriaid terfynol a chynhyrchwyr er mwyn deall eu profiad ac effaith y cynllun peilot hwn.

• Bydd gwerthuswyr yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r diweddaraf ym maes deddfwriaeth, polisi a mentrau eraill ym maes caffael bwyd yng Nghymru ac yn bellach i ffwrdd, i sicrhau fod yr adroddiad terfynol yn cyd-fynd â strategaethau ac arferion ehangach.

Canlyniadau

• Un adroddiad gwerthuso dros dro.

• Un adroddiad gwerthuso terfynol.

• “Dogfen - Profiadau Dysgu Allweddol” fydd yn cael ei dosbarthu i gaffaelwyr, tyfwyr/cynhyrchwyr, Hybiau a phobl sy’n gyfrifol am bolisi i sicrhau y defnyddir yr hyn a ddysgir o’r prosiect hwn i ddylanwadu ar weithgaredd a pholisi’r dyfodol. Gall y ddogfen hon gynnwys astudiaethau achos fydd yn cael eu cynhyrchu gan bartneriaid cyflenwi eraill, a dylai cynnwys crynodeb o ffeithluniau/sleidiau .

Bydd y Rhwydwaith Bwyd Agored (OFN) a phartneriaid/contractwyr eraill yn casglu data er mwyn dangos buddion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd ac iechyd ehangach cadwyni cyflenwi lleol ac arferion tyfu amaethecolegol.

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=121028 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.

Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

79419000 Evaluation consultancy services
1000 CYMRU
1010 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
1011 Ynys Môn
1012 Gwynedd
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1015 Cymoedd Canalog (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
1016 Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
1017 Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-Nedd Port Talbot
1018 Abertawe
1020 Dwyrain Cymru
1021 Sir Fynwy a Chasnewydd
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1024 Powys

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

Caffael Bwyd Cynaliadwy er budd Ffyniant Lleol: Briff Gwerthuso

Cyllideb: £12,500 gwerthuso + £5,000 ar gyfer argymhellion terfynol a deunyddiau dosbarthu (Gellir comisiynu dau ddarn o waith ar wahân).

Amserlen: Mai 2022 – Mehefin 2023 (13 mis).

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

Amodau cymryd rhan

• Profiad o’r sector bwyd cymunedol.

• Profiad o weithio gyda thyfwyr/cynhyrchwyr.

• Profiad o weithio gyda’r sector cyhoeddus.

• Profiad o werthuso prosiectau cymunedol a/neu fwyd yng Nghymru.

• Gallu cyflawni’r gwaith yn unol â’r amserlen a bennir.

• Gallu cwrdd â’r ddau hwb caffael yn Sir Gâr a Phowys.

• Deall datblygiadau ym maes caffael bwyd cyhoeddus yng Nghymru.

• Parodrwydd i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     23 - 05 - 2022  Amser   12:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   27 - 05 - 2022

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN   CY  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Alison Sheffield, Cydlynydd y Prosiect,

Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

alison@farmgarden.org.uk

07752 542 853

www.farmgarden.org.uk

(WA Ref:121028)

Mae'n ymwneud â'r prosiect/rhaglen ganlynol a ariennir gan Gronfeydd Cymunedol yr UE: Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru -Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae'r prynwr yn ystyried bod y contract hwn yn addas ar gyfer ceisiadau consortia.

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  05 - 05 - 2022

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
79419000 Gwasanaethau ymgynghori ar brisio Gwasanaethau ymgynghori ar fusnes a rheoli

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1018 Abertawe
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1015 Cymoedd Canalog (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
1016 Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
1000 CYMRU
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1020 Dwyrain Cymru
1010 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
1012 Gwynedd
1017 Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-Nedd Port Talbot
1024 Powys
1021 Sir Fynwy a Chasnewydd
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1011 Ynys Môn

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
alison@farmgarden.org.uk
Cyswllt gweinyddol:
alison@farmgarden.org.uk
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
alison@farmgarden.org.uk

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

Blwch Post

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau.

Cyflwyno eich ymateb i'r tendr yn electronig mewn amgylchedd diogel.

Er mwyn creu ymateb electronig, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu at fy rhestr Diddordeb" ar frig y dudalen.

Am ragor o wybodaeth am y Blwch Postio, darllenwch y canllaw i ddefnyddwyr:

Cwestiynau ac Atebion

Gofyn unrhyw gwestiynau y gall fod gennych ynghylch yr hysbysiad hwn i'r prynwr. Er mwyn gofyn cwestiwn neu gwestiynau i'r prynwr cliciwch ar y botwm "Gweld Cwestiynau ac Atebion".

Dogfennau Ychwanegol

Mae'r dogfennau ychwanegol canlynol wedi'u hatodi i'r hysbysiad hwn. I gael y dogfennau hyn, dewiswch enwau'r ffeiliau unigol isod.

Dogfennau cyfredol

pdf
pdf126.03 KB
Gofyn am fformat gwahanol.
pdf
pdf134.68 KB
Gofyn am fformat gwahanol.

Dogfennau wedi'u disodli

Nid oes unrhyw fersiynau blaenorol o'r dogfennau hyn


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.