Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) am benodi Contractwr i adeiladu’r unedau tai newydd canlynol yn Ysgol Niwbwrch, Niwbwrch:
• 4 x fflat 2 berson/1 ystafell wely
• 8 x tŷ 4 person/2 ystafell wely
• 1 x tŷ 5 person/3 llofft
• 1 x tŷ 6 person/4 llofft
Bydd y gwaith yn cynnwys dymchwel a chlirio'r adeilad presennol, adeiladu tai newydd, gwyro'r garthffos bresennol, newidiadau i'r fynedfa bresennol a gwaith tirlunio cysylltiedig i gyd fel y manylir yn y dogfennau tendro.
Fe allwch gael mynediad i'r dogfennau ar wefan GwerthwchIGymru. Dylai unrhyw ymholiadau gael eu gwneud trwy'r adnodd cwestiynau ac atebion.
Bydd angen i pob tendr gael ei dderbyn erbyn hanner dydd (12:00pm) 26/06/2023
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lan lwytho dogfennau, ac anfon yr ymateb electroneg ymhell cyn yr amser cau, er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=131939 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|