Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - Dale Sailing

Wedi'i leoli yng Nghei Brunel, Neyland, Dale Sailing yw eich siop un stop ar gyfer popeth sy'n ymwneud â chychod, gyda mynediad ardderchog i Ddyfrffordd Aberdaugleddau gyda'i Marinas yn Neyland ac Aberdaugleddau.


Cyflwyniad a hanes Dale Sailing

Mae gennym un o'r ierdydd cychod mwyaf diogel ac sydd â'r cyfarpar gorau yng Ngorllewin Cymru. Ein peiriant codi cychod yw'r un mwyaf yn y De-Orllewin, ac mae'n darparu gwasanaethau codi ar gyfer cychod hyd at 35 o dunelli.  Ein cyfleuster storio sych yw'r cyntaf o'i fath yn y Gorllewin, ac mae'n gallu storio 100 o gychod hyd at 11m a 6 thunnell.

Mae ein Tîm Peirianneg profiadol yn gwbl gymwysedig ac yn cynnig gwasanaeth a chymorth trwsio di-guro ar gyfer pob agwedd ar beirianneg forol. Mae gennym siop chwyth-baentio bwrpasol a dyfarnwyd 'Prif Fanwerthwr Paent Rhyngwladol y DU' i ni am ragoriaeth mewn gwasanaethau cwsmeriaid, gwybodaeth am gynnyrch ac amrywiaeth o baent a phaent gwrth-ffowlio.

Mae ein siop gêr môr a'n siop ar-lein yn llawn o'ch holl hanfodion, ynghyd ag amrywiaeth enfawr o offer electronig, dillad, motorau, angorau a llawer llawer mwy gan gyflenwyr yn cynnwys Raymarine, Mercury, Suzuki, Volvo ac Yanmar.

Mae cwmni Dale Nelson yn fyd enwog ac yn cael ei adnabod fel adeiladwr cychod o 'grefftwaith heb ei ail' a 'phedigri heb ei ail'. Mae Dale Nelson yn adeiladu cychod hwyliau modur moethus a chychod masnachol, a bob amser yn sicrhau'r cydbwysedd delfrydol rhwng traddodiad a thechnoleg.

Mae ein Teithiau Cwch o amgylch Ynysoedd Sir Benfro, ein Saffaris Môr a'n gwasanaeth llogi cychod siarter yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i archwilio a phrofi Ynys enwog Sir Benfro.

Mae West Wales Watersports, a leolir yn Dale, yn cynnig gwasanaeth llogi cyfarpar, sesiynau blasu a hyfforddiant, gyda chyrsiau sydd wedi'u hardystio gan RYA a BCU yn cael eu darparu gan ein hyfforddwyr cymwys a phrofiadol.

Mae Dale Sailing, a sefydlwyd yn 1961 gan Campbell Reynolds, tad John a Mike a Thad-cu Gareth (Cyfarwyddwyr presennol y Cwmni), yn gwmni teuluol nodweddiadol o hyd. 

O ddechreuad bach iawn mewn sied ym mhentref Dale ar arfordir gorllewinol Sir Benfro, lle y cafodd Campbell ei fagu, sefydlodd siop gêr môr a gwasanaeth adeiladu a thrwsio cychod lleol a dibynadwy, a ddaeth yn uchel ei barch yn yr ardal a thu hwnt.

Dros y blynyddoedd, ehangodd y busnes a symudodd i safle mwy ym Marina Neyland yn 1983, ac mae bellach yn cefnogi pob agwedd ar fywyd môr ac yn cyflogi hyd at 50 aelod o staff.

GwerthwchiGymru a Dale Sailing

Mae GwerthwchiGymru wedi rhoi cyfleoedd i ni ddod o hyd i farchnadoedd na fyddem wedi eu gweld o'r blaen a'r cyfle i dendro am waith wrth iddo ddod ar gael. Mae hefyd wedi cynnig ffyrdd gwahanol i ni hyrwyddo'r cwmni, yn ogystal â chyfleoedd busnes newydd, ac mae wedi rhoi amlygiad anhygoel i ni ar Facebook.  Mae hefyd yn darparu cymorth a chanllawiau gwerthfawr drwy'r wefan.

Er mwyn sicrhau eich bod manteisio i'r eithaf ar GwerthwchiGymru, byddem yn sicr yn argymell eich bod yn mynd ati i ddefnyddio'r wefan er mwyn dod o hyd i gyfleoedd busnes a meithrin cysylltiadau newydd.

https://dale-sailing.co.uk/

https://www.facebook.com/dalesailing/


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.