
Sefydlwyd Asiantaeth Ynni Severn Wye ym 1999 fel rhan o raglen SAFE y Comisiwn Ewropeaidd; rydym yn un o tua 300 o asiantaethau Ewropeaidd ‘rheoli galw’ ynni rhanbarthol a lleol.
Caiff llawer o’n gwaith ei wneud mewn ardaloedd gwledig lle mae lefelau tlodi tanwydd yn arbennig o uchel; rydym yn helpu’r cymunedau hyn i ddatblygu eu hatebion eu hunain o ran defnyddio ynni a rhoi gwybodaeth ac adnoddau iddyn nhw ostwng eu biliau tanwydd.
Rydym yn gweithio gyda llawer o gleientiaid a chyllidwyr – pawb o fusnesau preifat a chyrff y llywodraeth i grwpiau cymuned lleol, elusennau ac ysgolion.
Mae staff Severn Wye yr un mor hapus yn trafod materion fel cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni gyda deiliaid tai a phlant ysgol ac y maent yn trafod strategaethau i drechu tlodi tanwydd â chyrff cenedlaethol a rhanbarthol.
Yn sgil ein prosiectau, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth lleol, awdurdodau lleol, asiantaethau’r llywodraeth, cyrff rhanbarthol, y sector preifat, elusennau ac asiantaethau gwirfoddol a chydag asiantaethau ynni ledled Ewrop.
Mae pencadlys Cymru Severn Wye yn Llandrindod ac mae 17 o staff yn cael eu cyflogi ledled Cymru. Hefyd, mae 29 o staff arall yn Highnam, Swydd Gaerloyw yn gofalu am Dde-orllewin Lloegr.
Rydym wedi llwyddo i ennill llawer o dendrau trwy borthol GwerthwchiGymru. Yn fwy diweddar, cawsom ein gwneud yn aelod o Fframwaith Effeithlonrwydd Adnoddau Llywodraeth Cymru.
Cofiwch sicrhau bod eich proffil yn ddiddorol, bod eich manylion cofrestru’n gywir a’ch bod yn mynd i’r wefan yn rheolaidd i chwilio am hysbysiadau!
Twitter –
https://twitter.com/Severn_Wye
Facebook -
https://www.facebook.com/SevernWye/