Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - GPT Environmental

Mae GPT Environmental yn gwmni rheoli llygredd sydd wedi'i leoli yn y Pîl, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn arbenigo mewn sawl maes lle y caiff gwaith ei osod ar dendr yn aml, fel gwaredu gwastraff peryglus a gwaith adfer.


“Mae GPT Environmental yn gwmni rheoli llygredd sydd wedi'i leoli yn y Pîl, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn arbenigo mewn sawl maes lle y caiff gwaith ei osod ar dendr yn aml, fel gwaredu gwastraff peryglus a gwaith adfer.

"Cofrestrodd GPT Environmental gyda GwerthwchiGymru sawl blwyddyn yn ôl ond ni fanteisiwyd yn llawn arni nes i bersonél y cwmni newid. Pan gyflogwyd dau unigolyn graddedig (un ym maes gwerthu a'r llall ym maes marchnata), cafodd GwerthwchiGymru ei nodi fel adnodd a allai gael ei ddefnyddio'n fwy effeithiol.

"I ddechrau, aethom ati i ddiweddaru ein proffil ar GwerthwchiGymru a oedd yn golygu bod y negeseuon e-bost roeddem yn eu derbyn yn llawer mwy penodol ac yn llawer mwy perthnasol i ni. Ar y cychwyn, roedd gennym agwedd "ffwrdd â hi" a gwnaethom gynnig am rai contractau nad oeddent yn realistig. Er mwyn ein helpu i ysgrifennu tendrau, gwnaethom fynychu digwyddiad "Sut i Dendro" a drefnwyd gan y Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr a roddodd awgrymiadau a chyngor gwerthfawr iawn i ni ar sut i fynd ati i dendro'n llwyddiannus.

"Ers hynny, rydym wedi dewis y contractau rydym wedi cynnig amdanynt yn fwy gofalus ac, yn dilyn tendr llwyddiannus, mae GPT Environmental wedi'i gynnwys ar Fframwaith cyfredol Consortiwm Prynu Cymru ar gyfer Deunydd Priffyrdd a Chynhyrchion Rheoli Traffig. Megis dechrau mae'r Fframwaith ond mae'n addo bod yn gynhyrchiol iawn dros gyfnod y contract.

"Byddwn yn annog BBaChau eraill i gofrestru gyda GwerthwchiGymru a manteisio ar y digwyddiadau am ddim a'r cymorth am ddim a roddir. Byddwn yn eu rhybuddio, drwy gofrestru gyda GwerthwchiGymru, nad ydych yn mynd i dderbyn cyfleoedd perffaith yn syth. Ar ôl cofrestru, mae'n rhaid i chi fynd ati'n rhagweithiol i chwilio am fusnes ac mae chwilio drwy hysbysiadau dyfarnu am gyfleoedd i is-gontractwyr yn ffordd wych o wneud hyn."


01656 741 799
www.GPTenvironmental.co.uk

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.