Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - WebBox Digital

Mae WebBox Digital yn wasanaeth datblygu gwefannau a marchnata ar-lein proffesiynol wedi’i leoli ym Mhenarth, sy’n arbenigo mewn dylunio arloesol a strategaethau marchnata sy’n cynhyrchu enillion ar fuddsoddiad. Rydym yn dîm o saith, gydag arbenigwyr mewn datblygu gwefannau, dylunio graffeg, a strategaethau marchnata ar-lein, fel Pay-Per-Click, SEO, Hysbysebu Facebook a Marchnata drwy E-bost.


Yn ôl yn 2008, dechreuodd Will Roberts weithredu o’i ystafell wely, gyda’r weledigaeth o ddatblygu cwmni a oedd yn cyfuno gofal cwsmeriaid traddodiadol gyda’r dechnoleg ddiweddaraf. Erbyn heddiw mae WebBox Digital wedi deillio o hynny, ac rydym yn asiantaeth ddigidol ddynamig sy’n cyflogi tîm o ddylunwyr, datblygwyr a marchnatwyr ar-lein a staff gweinyddol pwrpasol i ddelio â’r prosiectau amrywiol niferus rydym yn ymgymryd â hwy.

Rydym wedi sicrhau busnes trwy GwerthwchiGymru sydd wedi ein helpu i ehangu ein portffolio ac i dyfu fel cwmni. Er enghraifft, rydym wedi cael gwaith gydag Uned Fferyllol y Santes Fair, sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sydd wedi ehangu ein portffolio o fewn y diwydiant iechyd.

Fel sefydliadau ac unigolion rydym yn mynd yn fwy a mwy dibynnol ar dechnoleg gwybodaeth, gwefannau a meddalwedd yn ein gweithgarwch o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, gall unrhyw gyfyngiad ar argaeledd iaith mewn technoleg effeithio ar sut y gallwn ei defnyddio yn y gweithgareddau o ddydd i ddydd hynny. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu bod gwefannau a chymwysiadau’n cynnig yr un cymorth yn Gymraeg a Saesneg, gan roi’r dewis i ddefnyddwyr o ba iaith yr hoffent ei defnyddio. Mae ein henw da am ddatblygu gwefannau dwyieithog wedi ein rhoi mewn sefyllfa fanteisiol pan fyddwn yn cwrdd â darpar gleientiaid ac wrth dendro am fusnes newydd. Un o’r heriau mwyaf rydym wedi’i hwynebu oedd ymdrechu i fod ar flaen y gad gyda’r mathau cywir o fusnesau.

Mae’r tendrau mae gennym fynediad atynt trwy GwerthwchiGymru wedi ein galluogi i gystadlu am, ac i ennill, busnes yn lleol. Mae’n braf gallu cadw’r gwaith yng Nghymru ac mae hyn wedi ein helpu hefyd i ddenu mwy o’r busnesau cywir.

Peidiwch â bod ofn tendro am fusnes. Mae’n rhan hanfodol o’n diwydiant ac ar ôl i chi ddod i ddeall y broses dylech ddechrau elwa ar y canlyniadau. Ein cyngor wrth dendro yw ei bod yn bwysig cymryd gofal wrth lunio’ch tendr. Gall dyfarnwyr fod yn gaeth iawn felly dylech ddilyn y meini prawf marcio bob amser!

Byddem hefyd yn argymell digwyddiadau hyfforddi Busnes Cymru, sy’n cynnig cyngor ymarferol gwerthfawr iawn gan weithwyr proffesiynol profiadol.


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.