Steve Tucker - Morganstone:
“Mae Morganstone, sydd wedi'i leoli yn Llanelli Gate ac sy'n gweithredu ledled De Cymru, yn gwmni adeiladu a datblygu sy'n ymgymryd â chontractau ar gyfer adeiladau newydd a gwaith adnewyddu ar ran cleientiaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
"Mae'r cwmni, a sefydlwyd yn 2008, wedi cofrestru gyda GwerthwchiGymru er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o'r cyfleoedd tendro sydd ar gael ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'u cynrychiolwyr er mwyn sicrhau bod ein Proffil a'n Categorïau yn adlewyrchu gweithgareddau'r cwmni.
"Rydym wedi llwyddo i ennill nifer o gontractau a lleoedd ar nifer o Fframweithiau. Ni fyddem wedi bod yn ymwybodol o rai ohonynt fel arall neu byddem wedi gorfod eu monitro'n ofalus er mwyn sicrhau na fyddem yn colli'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tendrau.
"Mae dau gontract yn sefyll allan; Katie Street, Blaengarw ar ran Creation Development Trust Chanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot. Daethom i wybod am y ddau drwy GwerthwchiGymru a llwyddom i ennill y contractau a'u cyflawni drwy dendr.
"Mae Fframweithiau Preswyl Coastal Housing Group a Chyngor Sir Caerfyrddin yn gyfleoedd pedair blynedd a fydd yn galluogi'r cwmni i dyfu yn yr hirdymor ac, unwaith eto, daethom i wybod amdanynt drwy'r
wefan.
"Drwy gofrestru gyda GwerthwchiGymru, mae'r cwmni wedi gallu canolbwyntio ar gyfleoedd tendro byw yn hytrach na chwilio am gyfleoedd posibl yn y farchnad, ac mae'n llwybr llawer mwy darbodus ac effeithiol. Drwy'r cyfleoedd hyn a chyfleoedd tendro eraill, mae'r cwmni, yn groes i'r duedd, wedi llwyddo i gynyddu ei drosiant pedwarplyg i £5m mewn dim ond pedair blynedd.
"Mae GwerthwchiGymru yn hanfodol i gwmnïau sy'n tyfu ac nad oes ganddynt yr adnoddau, ar y dechrau, i ddatblygu eu busnes, ac mae'n dod â darpar gleientiaid atoch chi gan olygu nad oes angen i chi fynd ati i chwilio amdanynt. Mae'n rhaid i chi feddu ar y sgil a'r arbenigedd i ennill y tendrau neu'r lleoedd ar Fframweithiau o hyd, ond mae GwerthwchiGymru yn
sicrhau eich bod yn cael cyfle i roi cynnig arni."