Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - Ridgeway Contractors Ltd

Mae Ridgeway Contractors Ltd yn gwmni contractio gwaith allanol sy'n ymgymryd â chontractau gosod sylfeini, ffensio, dwr gwastraff, carthffosiaeth a thirlunio ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r cwmni wedi'i leoli ym mhentref Llangwm ar gyrion tref Brynbuga, Sir Fynwy.


“Mae Ridgeway Contractors Ltd yn gwmni contractio gwaith allanol sy'n ymgymryd â chontractau gosod sylfeini, ffensio, dwr gwastraff, carthffosiaeth a thirlunio ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r cwmni wedi'i leoli ym mhentref Llangwm ar gyrion tref Brynbuga, Sir Fynwy. Mae'r cwmni wedi cwblhau contractau ym mhob rhan o'r wlad.

"Mae Ridgeway Contractors Ltd yn aelod ardystiedig o Gymdeithas y Contractwyr Ffensio ac yn aelod ardystiedig o Constructionline. Mae'r cwmni hefyd yn aelod achrededig o'r Cynllun Asesu Iechyd a Diogelwch, ac mae ganddo beiriannydd gwasanaeth achrededig ar gyfer Gwaith Cynnal a Chadw Gweithfeydd Trin Carthion.

"Mae'r cwmni wedi bod yn defnyddio GwerthwchiGymru ers bron i dair blynedd ar ôl gweld y cwmni'n cael ei hysbysebu ar-lein a derbyn gohebiaeth ganddo drwy'r post. Mae GwerthwchiGymru wedi cynnig ffyrdd eraill o hyrwyddo'r cwmni yn ogystal ag arweiniad a chyfleoedd busnes newydd.

"Un cyfle penodol a welsom yn cael ei hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru oedd prosiect ffensio gyda'r comisiwn coedwigaeth. Gwnaethom gwblhau
Holiadur Cyn-Gymhwyso (PQQ) a llwyddo, yn y pen draw, i ennill y  contract. Aeth y cwmni ati i osod ffensys o amgylch ardaloedd yr oedd hi'n anodd mynd atynt a safleoedd peryglus.

"Y cyngor y buasem yn ei roi i unrhyw fusnes arall fyddai peidiwch â  digalonni os na fyddwch yn llwyddo ar y cam cyntaf - mae llawer i'w ddysgu a dylech fod yn benderfynol o lwyddo."

Ben Spooner Ffôn 01291 652967


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.