Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - Parkes

Mae Parkes yn gynhyrchwr cynnwys arbenigol sydd wedi'i leoli yn Abertawe am dros 25 mlynedd. Mae gan ein tîm o ymchwilwyr, ysgrifenwyr, golygyddion, arbenigwyr TG a rheolwyr prosiect arbenigedd ym maes dadansoddi'r sector diwydiannol, gwybodaeth a chanllawiau busnes, cyllid, treth, ystadegau, ac ysgrifennu cyffredinol a thechnegol.


Rydym wedi paratoi canllawiau dechrau busnes i Virgin.Biz, Banc Masnachol Alliance & Leicester (Santander bellach) ac Adviserplus Business Solutions. Mae'r canllawiau'n rhoi canllawiau penodol i sector ar ddechrau a rhedeg busnes. Maent yn cwmpasu dros 200 o fathau gwahanol o fusnes yn fanwl ac yn cynnwys Cyfrifiannell Costau Cychwyn rhyngweithiol ac offer defnyddiol arall. Mae'r cwmni hefyd yn paratoi cynlluniwr busnes label gwyn rhyngweithiol a rhagolwg llif arian parod.

Rydym wedi defnyddio GwerthwchiGymru am dros 5 mlynedd. Mae'n adnodd amhrisiadwy am ddim ar gyfer marchnata gwasanaethau'r cwmni, dod o hyd i gontractau posibl a nodi cysylltiadau defnyddiol yn y busnesau sy'n cyflwyno cyfleoedd tendro.


Mae'r cwmni wedi ennill tendrau i ddarparu cynnwys gwefan ar gyfer y llywodraeth a chwmnïau o'r radd flaenaf. Cafodd canllawiau sector masnachu eu comisiynu gan Business Link a'u llunio ar eu cyfer. Contractau eraill y tendrwyd amdanynt ac a enillwyd oedd ysgrifennu canllawiau ar dreth a budd-daliadau i Direct.gov a chanllawiau wedi'u symleiddio sy'n wynebu'r cwsmer ar gyfer gwefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Rydym hefyd wedi paratoi canllawiau busnes rhanbarthol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae tendro yn cymryd amser felly mae angen ichi sicrhau nad yw'r amser yn cael ei wastraffu.


Os nad ydych erioed wedi tendro o'r blaen, mae gweithdai fel y rhai a ddarperir gan GwerthwchiGymru yn hanfodol. Peidiwch wedyn mynd ati i ddefnyddio dull rhy eang, gan dendro ar gyfer pob contract posibl. Mae'n debyg i badellu am aur - adolygwch yr holl gyfleoedd a hysbysebir ar GwerthwchiGymru ond dewiswch yr ychydig rai sy'n cyfateb yn ddelfrydol i'ch sgiliau yn unig.
Darllenwch y dogfennau tendro yn ofalus ac yna cymerwch yr holl amser sydd ei angen arnoch i'w llenwi, gan nodi'r sgoriau i sicrhau eich bod yn disgleirio lle mae hynny bwysicaf.


Carola Parkes
01792 458525 Est 21
Gwefan: www.parkestax.co.uk


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.