Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - Principality Consulting Limited

Mae Principality Consulting Limited, a leolir yng Nglynebwy yn dîm gwella busnes amlddisgyblaethol. Cafodd y cwmni ei greu yn 2003 pan brynodd y rheolwyr y cwmni o bractis ymgynghoriaeth cenedlaethol. Am dros ddegawd mae'r cwmni wedi llwyddo i gynorthwyo busnesau i adolygu sut y maent yn gweithio a nodi opsiynau arloesol ar gyfer y perfformiad gorau posibl.


Ceir pedwar ymgynghorydd amser llawn a gefnogir gan bartneriaid cyswllt, a chanddynt hanes o helpu busnesau preifat a sector cyhoeddus gyda'u harbenigedd, eu cyngor a'u canllawiau.  Ymhlith eu cryfderau mae, dechrau busnes; datblygu a thwf uchel, rheoli newid, technoleg gwybodaeth, cyfathrebu marchnata a rheoli gweithrediadau. 

Gydag is-swyddfeydd ym Mangor a Henffordd, mae ymgynghorwyr yn gweithio ledled Cymru, y DU ac Ewrop.

Mae GwerthwchiGymru yn elfen allweddol yn ein strategaeth fusnes gan ein helpu i nodi a chyflwyno tendrau perthnasol.  O ganlyniad, rydym wedi bod yn llwyddiannus o ran sicrhau contractau niferus gan gynnwys:  

rhaglen e-fusnes 2004 hyd yma
Technoleg ac Arloesedd (2006)
Gwasanaeth Cynghori Busnes Cyffredinol (2006)
Rheoli Seiliedig ar Weithgarwch (2002 – 2005)
Rhaglen Genba Kanri (1996 – 2005)
Rhwydweithiau Gwasanaeth (2004)

Drwy gyflawni'r contractau fframwaith hyn rydym wedi cynorthwyo cannoedd o fusnesau bach a chanolig eu maint.  Yna mae Principality Consulting yn cyflwyno'r atebion – wedi'u hategu gan y dechnoleg orau.  Lle y bo'n bosibl, rydym yn nodi cyllid pellach i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu gwireddu.

Rydym yn aml yn rhannu ein harfer o ddefnyddio GwerthwchiGymru fel offeryn gwybodaeth am y farchnad/ymchwil.  Mae hyn yn golygu monitro'r dyfarniadau contract amrywiol a hysbysebir i nodi'r potensial ar gyfer cyfleoedd i is-gontractio a sicrhau ein bod yn teimlo naws yr amgylchedd cystadleuol bob amser.

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.