Jayne Wotton - Ontrac Agency Ltd:
“Mae Ontrac, sydd wedi'i lleoli yn y Drenewydd, yn asiantaeth dylunio marchnata creadigol. Mae'r busnes, a sefydlwyd 20 mlynedd yn ôl, yn cynnig amrywiaeth o ddisgyblaethau marchnata yn cynnwys dylunio, gwaith celf, gwefannau, digwyddiadau ac arddangosfeydd.
"Rydym yn sicr wedi bod yn defnyddio GwerthwchiGymru ers tua wyth mlynedd - dwi ddim yn siwr ers pryd y mae wedi bod yn weithredol...ac rydym yn edrych arni'n ddyddiol. Mae'n rhan o'n strategaeth fusnes newydd.
"Rydym wedi ennill busnes mewn dwy ffordd: cwmnïau'n cysylltu â ni'n uniongyrchol drwy GwerthwchiGymru a bod yn rhan o gontractau fframwaith a hysbysebwyd drwy GwerthwchiGymru. Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd un o'r fframweithiau yr oeddem yn rhan ohono yn gyfrifol am ein holl drosiant ar ddigwyddiadau.
"Mae nifer o gwmnïau sy'n ansicr ynglyn â defnyddio GwerthwchiGymru...yn bennaf am eu bod o'r farn bod tendro yn y sector cyhoeddus yn waith caled. Byddwn yn bendant yn annog unrhyw gwmni i ddefnyddio'r adnodd - nid yn unig am ei fod am ddim, ond hefyd am fod yr holl gyfleoedd tendro ar gael mewn un lle.
"Y cyngor y buaswn i'n ei roi i fusnes tebyg i'n busnes ni fyddai darllenwch y briff, ac os byddwch yn penderfynu cynnig am y gwaith, gwnewch yn siwr eich bod yn cymryd yr amser i fynd i'r afael â phob rhan o'r tendr. Hefyd, un o'r pethau rwyf wedi'i ddysgu o brofiad yw gwnewch yn siwr eich bod wedi ystyried y meini prawf sgorio - maent wedi'u cynnwys am reswm!"