Mae G2G
Communities CIC wedi bod yn masnachu ers mis Mawrth 2010 ac mae wedi mwynhau
twf flwyddyn ar ôl blwyddyn drwy ganolbwyntio ar gyflenwi gwasanaeth
cyfeillgar, o ansawdd, sydd wedi sicrhau bod G2G yn cael ei gydnabod fel
darparwr hyfforddi hawdd mynd ato ac arloesol ledled y gogledd.
Wedi'i
leoli'n gyfleus yng Nghanolfan Fusnes Bee and Station, Stryd Bodfor, y Rhyl ac
yn ymgorffori'r Stiwdio Arloesedd Addysg gymunedol LEGO® gyntaf yn y DU, mae
G2G yn cynnig amrywiaeth o brosiectau o'n pedair canolfan ddysgu fodern,
gyfforddus a hygyrch ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi 10 aelod o staff amser
llawn/rhan-amser yn ogystal â chynorthwyo gwirfoddolwyr mewn rolau amrywiol yn
rheolaidd.
Mae G2G
wedi bod yn aelod gweithgar o GwerthwchiGymru am dros 3 blynedd ac mae wedi
cael budd o'i wasanaethau. Mae tendro drwy GwerthwchiGymru yn ffordd syml ac
effeithiol o ddod o hyd i gontractau newydd ac mae'r digwyddiadau a gynhelir
ganddynt yn eithriadol o ddefnyddiol i sefydlu perthnasoedd busnes a phartneriaethau
newydd. Rydym hefyd o'r farn bod y rhestr o gyflenwyr contractwyr yn
ddefnyddiol oherwydd bod hyn yn helpu i nodi busnesau eraill sy'n awyddus i
sefydlu partneriaethau o fudd i bawb i gyflawni eu canlyniadau prosiect.
Mae ein
Gwerthoedd Corfforaethol yn
ysgogi cred a dyheadau'r sefydliad ac mae arloesedd a safon yn allweddol i'n
llwyddiant.
Ein
hawgrymiadau i sefydliadau eraill:
ymchwiliwch i'ch marchnad a'i deal peidiwch â gorymestyn eich hun drwy osod gormod o
gategorïau yn chwilotwr GwerthwchiGymru darparwch wasanaeth o safon wedi'i dargedu at anghenion
eich cleient sicrhewch fod gan yr holl staff y ‘meddylfryd’ cywir i sicrhau
eich bod yn cynnig gwasanaeth cwsmeriaid gwych sicrhewch fod pawb yn credu ac yn byw eich gwerthoedd
corfforaethol cofiwch gynnwys staff a chleientiaid yn eich proses
cynllunio busnes derbyniwch feirniadaeth yn gadarnhaol a sicrhewch eich
bod yn gweithredu ar unwaith ar gyngor neu awgrymiadau mewn modd cadarnhaol
G2G
Communities CIC
Stiwdio
Arloesedd Addysg LEGO/Canolfan Arloesi Gogledd Cymru
Canolfan
Fusnes Bee and Station
41 Stryd
Bodfor
Y Rhyl
Sir
Ddinbych
LL18 1AT