Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - 20 Degrees Consulting Ltd

Mae 20 Degrees yn cynorthwyo pobl a'u sefydliadau drwy gyfnodau o newid. Rydym yn gweithio gyda chleientiaid i'w helpu i wireddu manteision newid a fwriedir a rheoli canlyniadau newid anfwriadol.


Mae 20 Degrees yn cynorthwyo pobl a'u sefydliadau drwy gyfnodau o newid.  Rydym yn gweithio gyda chleientiaid i'w helpu i wireddu manteision newid a fwriedir a rheoli canlyniadau newid anfwriadol.  Gellir rhannu ein gwasanaethau yn bedair elfen sy'n aml yn gorgyffwrdd:

Arloesedd – ysgogwr newid rhagweithiol a chadarnhaol

Rydym yn cefnogi hyrwyddo arloesedd mewn sefydliad.

Rheoli prosiectau – y dull ar gyfer newid a reolir


Rydym yn gweithio gyda graen diwylliant sefydliad cleient i gyflwyno dulliau sydd fwyaf tebygol o arwain at y manteision a fwriedir gan brosiect newid.

Datblygu pobl – helpu pobl i fabwysiadu ymddygiad a sgiliau cadarnhaol ar gyfer newid

Rydym yn cefnogi ochr pobl o ran newid drwy ddatblygu sgiliau, datblygu arweinyddiaeth a hyfforddi yn yr amgylchedd prosiect.

Gwerthuso – dysgu'r gwersi o newid

Rydym yn darparu dadansoddiad trwyadl a myfyrio beirniadol.

Meddai Alun Hughes, un o Gyfarwyddwyr 20 Degrees

‘Gwnaethom ddechrau masnachu ym mis Medi 2013 yn unig ac mae GwerthwchiGymru wedi bod yn wych inni.  Rydym wedi cynnig am wyth prosiect a hysbysebwyd ar GwerthwchiGymru ac rydym wedi ennill pedwar ohonynt.  Mae hynny'n gyfradd lwyddo eithaf da.  I ni mae hyn yn cynrychioli 73% o’n blwyddyn gyntaf o werthiannau yn ôl gwerth a 45% o drosiant ein blwyddyn gyntaf.  Mae ochr werthuso ein busnes yn tyfu'n arbennig o gryf’.

Fy nghyngor i unrhyw un arall sy'n ystyried tendro yw ‘Cadwch bethau'n syml ond gwnewch ymdrech i lunio cynnig da.  Meddyliwch am eich dogfen dendr fel fersiwn ysgrifenedig o gyfweliad am swydd.  Os ewch i gyfweliad am swydd yn edrych yn flêr a heb ddarganfod unrhyw wybodaeth gefndir am y cyflogwr, mae'n debygol na fyddwch yn cael y swydd.  Yn y bôn, mae pobl sy'n gofyn am dendrau yn eich cyfweld am swydd.’


20 Degrees Consulting Ltd

www.20degrees.co.uk

Twitter: @20_degrees

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.