Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Astudiaeth Achos - Astudiaeth Achos - Read Construction Holdings Ltd

Mae Read Construction Holdings Ltd (Read), BBaCh sydd wedi'i leoli ym Mrymbo, Wrecsam, yn brif gontractwr adeiladu sy'n gweithio ledled Gogledd Cymru.

Manylion

Alex Read, Rheolwr Gwella Busnes

“Mae Read Construction Holdings Ltd (Read), BBaCh sydd wedi'i leoli ym Mhrymbo, Wrecsam, yn brif gontractwr adeiladu sy'n gweithio ledled Gogledd Cymru.


"Gan mai BBaCh ydym, mae rolau llawer o'r staff yn y brif swyddfa yn rhai amlddisgyblaethol, ac nid yw'n bosibl i ni gyflogi rhywun llawn amser i nodi cyfleoedd busnes. Fel y cyfryw, rydym yn dibynnu'n helaeth ar wasanaethau nodi cyfleoedd er mwyn amlygu ffrydiau gwaith posibl.

"Rydym wedi bod yn defnyddio GwerthwchiGymru ers dros bum mlynedd fel ein prif wasanaeth ar gyfer nodi cyfleoedd tendro yn y sector cyhoeddus yn ein hardal, ac rydym wedi cyflwyno llawer o dendrau ar gyfer cyfleoedd gwaith a hysbysebwyd drwy'r porth, gyda chryn dipyn o lwyddiant.

"Ymhlith y llwyddiannau sy'n deillio o'r cyfleoedd a nodwyd drwy hysbysiadau GwerthwchiGymru mae'r estyniad i ganolfan ymwelwyr Llyn Brenig yn Sir Ddinbych. Dyfarnwyd y contract 25 wythnos hwn a oedd yn werth dros £400k ar ddiwedd haf 2012, yn ystod cyfnod economaidd heriol ac anodd iawn pan roedd cyfleoedd tendro yn brin. Gwnaeth y cyfle hwn nid yn unig helpu i ddiogelu swyddi'r gweithlu presennol, ond bu'n gymorth hefyd i hwyluso'r broses o feithrin cydberthynas gyda chleient cenedlaethol newydd sydd â rhaglen gwaith cyfalaf fawr.

"Yn seiliedig ar ein profiad o dendro, byddem yn annog cwmnïau i ddefnyddio GwerthwchiGymru er mwyn eu helpu i wneud dewisiadau. Peidiwch â gwastraffu amser, arian ac ymdrechion yn mynd ar ôl pob cyfle. Yn hytrach, targedwch y cyfleoedd hynny sy'n gweddu orau i'ch cynllun busnes a'ch strategaeth farchnata, gan ystyried y potensial i feithrin cydberthnasau hirdymor gyda chleientiaid newydd."
Contractwyr

Adeiladu Read

http://www.readconstruction.co.uk