Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - Purple and Green

Rydym yn asiantaeth ddylunio ac ysgrifennu copi ar y we / print a leolir ger y Fenni ac rydym yn gwneud pethau ychydig bach yn wahanol – rydym yn dîm o wr a gwraig sy'n newyddiadurwyr profiadol ac rydym yn dylunio deunyddiau marchnata o amgylch y cynnwys yn gyntaf (daw'r dyluniad prydferth yn dilyn hynny!).


Rydym yn asiantaeth ddylunio ac ysgrifennu copi ar y we / print a leolir ger y Fenni ac rydym yn gwneud pethau ychydig bach yn wahanol – rydym yn dîm o wr a gwraig sy'n newyddiadurwyr profiadol ac rydym yn dylunio deunyddiau marchnata o amgylch y cynnwys yn gyntaf (daw'r dyluniad prydferth yn dilyn hynny!).


Mae gan Jonah Webb dros 20 mlynedd o brofiad ym maes dylunio ac mae'n cynnig dylunio ar y we a phrint. Mae'n aelod o UKWDA (Cymdeithas Dylunio Gwefannau'r DU). Mae gan Nancy Cavill dros 17 mlynedd o brofiad o ysgrifennu i bapurau newydd, cylchgronau ac ar-lein bellach. Mae'n ymdrin â'n gwaith o ysgrifennu cynnwys ar gyfer y we ac yn cynnig cyngor ar strategaeth cyfryngau cymdeithasol.

Fel egin-gwmni yn 2011 gwnaethom gofrestru gyda GwerthwchiGymru er ein bod ychydig bach yn amheus o'r broses dendro. Er nad ydym yn cynnig am waith mawr bu'n bleser gweld bod llawer o waith llai y gallwch gynnig amdano – o brosiectau ar y we i olygu ar y we ac ysgrifennu copi a hefyd contractau dylunio print.

Ers ymuno â GwerthwchiGymru mae Jonah wedi mynd i weithdy ‘sut i dendro’ ac o ganlyniad i hyn rydym wedi llwyddo i gynnig am gontractau bach yn hyderus.

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod cael proffil ar GwerthwchiGymru i bob pwrpas yn arf marchnata am ddim sy'n ddefnyddiol i'n busnes. Mae'n rhoi llwyfan a phresenoldeb inni ledled Cymru na fyddai gennym fel arall.

Mae'n wych cadw llygad ar ba waith sydd ar gael a chael syniad o bwy y mae arnynt angen y math o wasanaethau rydym ni'n eu cynnig. Am y rheswm hwn byddwn yn parhau i ddefnyddio GwerthwchiGymru fel rhan o'n strategaeth i adeiladu ein busnes. Os hoffech inni helpu i farchnata eich busnes cysylltwch â ni drwy ein gwefan, www.purpleandgreen.co.uk neu anfonwch e-bost
at nancy@purpleandgreen.co.uk


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.