Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Astudiaeth Achos - P K Safety & Sell2Wales

Mae P K Safety yn fusnes sy'n ailwerthu cyfarpar diogelwch. Gall darparu amrywiaeth eang o nwyddau o gyfarpar amddiffyn personol i ddillad a nwyddau glanhau i Wisgoedd Corfforaethol.

Manylion

Mae P K Safety yn fusnes sy'n ailwerthu cyfarpar diogelwch. Gall darparu amrywiaeth eang o nwyddau o gyfarpar amddiffyn personol i ddillad a nwyddau glanhau i Wisgoedd Corfforaethol.


Rydym wedi ein lleoli yn Abercynon ac rydym yn cyflogi 11 o weithwyr lleol. Sefydlwyd y cwmni yn 1983 yn ardal Caerdydd. Ers hynny rydym wedi meithrin gwybodaeth sylweddol am y marchnadoedd dillad a chyfarpar amddiffyn personol a dillad. Roedd cwmni P K Construction yn bodoli cyn hynny, cwmni a oedd yn ymdrin â gwasanaethau arolygu a gwasanaethau eraill yn ymwneud ag adeiladu.

Mae gennym sawl enghraifft o lwyddiant yn sgil GwerthwchiGymru! Mae mwyafrif y contractau rydym wedi'u hennill drwy GwerthwchiGymru yn gontractau Awdurdod Lleol neu'n gontractau ar gyfer busnes gyda Chyrff Llywodraethol.

Dyma enghreifftiau o rai o'r contractau rydym wedi'u hennill drwy GwerthwchiGymru: Partneriaeth Caffael Gogledd Cymru, Consortiwm Caffael Cymru a gwaith ar gyfer CADW. Defnyddiwyd gwefan GwerthwchiGymru er mwyndod o hyd i'r gwaith, ac i lunio a chyflwyno tendrau. Roedd y wefan yn gweithio'n dda o hyd ac mae'n hwylus i’w defnyddio.

Ein cyngor i bobl sy'n ystyried ei defnyddio yw i wneud defnydd da o'r adnodd ar gyfer Chwilio am Dendrau. Mae'n adnodd defnyddiol iawn i ddod o hyd i gontractau ar gyfer eich busnes.