Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - Kelray Building Maintenance Ltd

Cwmni o Ferthyr Tudful yw Kelray Building Maintenance Ltd sy’n cynnig gwasanaethau adeiladu ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr.


Cwmni o Ferthyr Tudful yw Kelray Building Maintenance Ltd sy’n cynnig gwasanaethau adeiladu ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr.

Gyda 30 mlynedd o brofiad o fewn y diwydiant, arferai Carl Raynes, y Rheolwr Gyfarwyddwr weithio fel unig fasnachwr cyn iddo sefydlu cwmni cyfyngedig  yn 2004. Mae'r cwmni yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau, adeiladu, rheoli eiddo ac amgylchedd hylan. Rydym yn arbenigo mewn adnewyddu ffatrïoedd a gosod lloriau diwydiannol.


Dros y blynyddoedd, mae llwyddiant Kelray wedi mynd o nerth i nerth ac rydym yn ymfalchïo yn ein henw da a'r berthynas gref a pharhaus sy'n bodoli rhyngom ni â chleientiaid proffil uchel.  Yn 2005, roedd Kelray
yn falch o ennill Gwobr Datblygu Busnes  am ddatblygu 'Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Effeithlonrwydd Busnes a Hyfforddi Staff'. Wedi hynny, cafodd y cwmni ei wahodd i 10 Stryd Downing i gael cydnabyddiaeth am waith y cwmni o fewn y diwydiant.

Mae Kelray wedi bod yn gweithio gyda GwerthwchiGymru am nifer o flynyddoedd ac mae wedi elwa ar hynny.  Rydym wedi bod i nifer o gyfarfodydd ac rydym yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y swyddi sy'n berthnasol i'r math o waith yr ydym yn ei wneud. Rydym wedi cael nifer o gontractau yn sgil ein cysylltiad â GwerthwchiGymru. Y contract mwyaf gwerthfawr inni oedd contract blwyddyn gyda Chyngor Torfaen yn 2011. 
Roedd y contract yn cynnwys gwneud gwaith ar dai i bobl ddigartref o fewn eu cymunedau lleol.  Roedd y gwaith yn cynnwys adnewyddu eiddo gwag a gwneud y gwaith cynnal a chadw yn ôl yr angen. Cyflogwyd  staff chwanegol i gwblhau’r gwaith. Gwnaethom fwynhau gweithio ar y prosiect hwn a chynorthwyo'r gymuned.

Wedi inni gofrestru gyda GwerthwchiGymru mae wedi bod yn haws dod o hyd I brosiectau posibl o fewn ein sector, ac mae'n rhoi'r cyfle inni i werthu ein cwmni'n effeithiol i gwsmeriaid.

Gwybodaeth cyfryngau cymdeithasol:

Trydar:@kelrayLTD  
Facebook: https://www.facebook.com/KelrayBMLTD



0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.