Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - Village Websmith in Tintern

Mae'r Village Websmith yn helpu busnesau bach i hyrwyddo eu hunain, ar y rhyngrwyd yn bennaf, ond hefyd drwy ddeunydd printiedig, gan eu helpu gydag ymgyrchoedd gwerthu a threfnu grwpiau rhwydweithio busnes. Yr hyn sy'n wahanol yw ein defnydd o iaith a delweddau sy'n gwerthu, yna gosod gwybodaeth lle y bydd yn cael ei gweld a deall marchnadoedd a chwilotwyr.


Mae'r Village Websmith yn helpu busnesau bach i hyrwyddo eu hunain, ar y rhyngrwyd yn bennaf, ond hefyd drwy ddeunydd printiedig, gan eu helpu gydag ymgyrchoedd gwerthu a threfnu grwpiau rhwydweithio busnes.  Yr hyn sy'n wahanol yw ein defnydd o iaith a delweddau sy'n gwerthu, yna gosod gwybodaeth lle y bydd yn cael ei gweld a deal marchnadoedd a chwilotwyr.

A ninnau'n masnachu yng Nghymru ers 2003, mae'r brand bellach wedi'i fasnachfreinio i rannau eraill o'r DU, gan greu presenoldeb ar y we ar gyfer eu cwsmeriaid drwy ddefnyddio Webinthebox®, ein masnachnod cofrestredig ar gyfer system rheoli cynnwys.  Mae hyn yn galluogi masnachfreintiau i ganolbwyntio ar y cynnwys a hyrwyddo yn hytrach na'r dechnoleg.  Llandeglau oedd man geni ein busnes a'n cynnyrch, ond rydym wedi ein lleoli yn Nhyndyrn erbyn hyn.

Daw ein llwyddiant yn bennaf drwy argymhellion ar lafar o'r nifer o fusnesau bach rydym wedi eu helpu i gael cwsmeriaid mewn marchnad gystadleuol iawn.  Gwneud gwaith gwych yw'r dechrau yn unig a rhaid mynd i chwilio am atgyfeiriadau, ac yna gweithredu arnynt.  Ar hyn o bryd rydym yn paratoi ymatebion tendr i gyfleoedd a gafwyd drwy GwerthwchiGymru, a allai gynyddu ein trosiant blynyddol tua 30% yn y flwyddyn i ddod.


I helpu busnesau bach fel ein un ni, byddem yn argymell rhwydweithio ar bob lefel a phob llwyfan sydd ar gael, gan chwilio am gyfleoedd fel y rhai a hysbysebir ar GwerthwchiGymru.  Pan welaf gyfle wedi'i restru yno nad yw'n briodol i'r hyn rydym yn ei wneud, rwy'n gwahodd cwsmer sydd yn y diwydiant hwnnw i gofrestru a dilyn y cyfle hwnnw.  Yn y modd hwn, rydym yn helpu'r bobl sydd wedi prynu gennym ac rydym yn eu hannog i wneud yr un peth i ni.

Mae cael canolbwynt cryf yn lleol yn help mawr hefyd. Rydym yn aelodau o Gymdeithas Dwristiaeth Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena ac rwyf wedi cadw lle ar gwrs hyfforddi i ddod yn Llysgennad ar gyfer Sir Fynwy, a dylai'r ddau gysylltiad hyn helpu i gryfhau ein perthynas â chwsmeriaid lleol.



0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.