Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - OCON fire and security Ltd

Sefydlwyd OCON 9 mlynedd yn ôl gan Andrew Davies. Mae Andrew wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant tân a diogelwch ers dros 20 mlynedd ac wedi gweithio gyda rhai o’r cwmnïau mwyaf yn y busnes. Heddiw, rydym yn cyflogi 27 o staff mewn 2 swyddfa; mae ein swyddfa yn y canolbarth yn arbenigo mewn systemau tân a diogelwch masnachol a domestig ac mae yno adran arbenigol mewn olew a nwy morol. Mae ein depo yng ngogledd Lloegr yn delio’n bennaf â’r diwydiannau morol, olew a nwy.


Sefydlwyd OCON 9 mlynedd yn ôl gan Andrew Davies.  Mae Andrew wedi bod  yn ymwneud â’r diwydiant tân a diogelwch ers dros 20 mlynedd ac wedi gweithio gyda rhai o’r cwmnïau mwyaf yn y busnes. Heddiw, rydym yn cyflogi 27 o staff mewn 2 swyddfa; mae ein swyddfa yn y canolbarth yn arbenigo mewn systemau tân a diogelwch masnachol a domestig ac mae yno adran arbenigol mewn olew a nwy morol.  Mae ein depo yng ngogledd Lloegr yn delio’n bennaf â’r diwydiannau morol, olew a nwy.


Rydym yn darparu gwasanaethau cyflawn i gwmnïau ynghylch eu hanghenion tân a diogelwch, popeth o ymgynghori a dylunio systemau i osod, gwasanaethu a chynnig gwasanaeth galw allan cyflym.  Mae ein cwsmeriaid yn teimlo eu bod nhw mewn dwylo diogel pan maen nhw’n delio â ni.

Ers ymuno â GwerthwchiGymru a’i ddefnyddio’n rhagweithiol, rydym wedi ennill llawer o gontractau mawr.  Mae gennym amrywiaeth eang o gwsmeriaid – popeth o gwsmeriaid preswyl gyda larymau ty syml i gontractau mawr gyda chyrff fel Cyngor Sir Benfro, Heddlu Dyfed Powys, purfa olew Murco a First Milk.

Un o fanteision defnyddio GwerthwchiGymru i OCON yw’r ffaith bod e-bost gyda manylion contractau newydd yn cael ei anfon aton ni bob bore.  Mae hyn yn golygu nad oes raid i’n tîm gwerthu gysylltu’n rheolaidd ag adrannau caffael i holi ynghylch cyfleoedd tendro newydd.  Yn hytrach nagorfod cwrso’n ddiddiwedd am dendrau newydd, mae’r tîm gwerthu’n gallu canolbwyntio ar ehangu’r busnes mewn meysydd eraill.

Mae defnyddio “geiriau allweddol” ac “ardaloedd” yn gwneud hi’n gynt i ddod o hyd i dendrau addas heb gael ein llethu gan fanylion tendrau anaddas.  Mae’n hawdd iawn cael eich llethu gan wybodaeth amherthnasol; gan fod GwerthwchiGymru yn ffiltro unrhyw wybodaeth amherthnasol, dim ond yr wybodaeth sy’n berthnasol i ni sy’n ein cyrraedd.

Boed y cwsmer yn chwilio am larwm diogelwch, CCTV, diffoddwyr tân, help i reoli mynediad, systemau atal neu systemau darganfod nwy, mae GwerthwchiGymru wedi’n helpu i dyfu yn gyflym iawn mewn cyfnod digon anodd.

Byddem ni’n annog unrhyw un sy’n awyddus i ehangu ei fusnes ac ennill contractau mawr ymuno â GwerthwchiGymru – dyma’r ffordd ymlaen!

Ian Davies, Rheolwr Datblygu Busnes, OCON Fire and Security Ltd

Twitter
- @oconfireandsecu

Facebook
- https://www.facebook.com/pages/OCON-Fire-Security-Ltd/460127960730591?fref=ts

LinkedIn
- https://www.linkedin.com/company/ocon-fire-and-security.co.uk?trk=tyah



0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.